Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lledaenu ysbryd y Nadolig mewn cyfnod anodd
Published: 21/12/2020
Daeth disgyblion o ysgol gynradd Drury ag ychydig o ysbryd y Nadolig i drigolion cartref gofal Marleyfield House yn ddiweddar.
Trefnwyd y digwyddiad ar-lein gan Willmott Dixon fel rhan o’u hymrwymiad i ddarparu gwerth cymdeithasol wrth gyflawni estyniad £8.4miliwn i gartref gofal Marleyfield House.
Perfformiodd y disgyblion gyngerdd Nadolig arbennig ar-lein i’r trigolion, a ddangoswyd ar sgrin i’r holl drigolion ei weld. Gellir ei weld yma.
Dywedodd un o’r trigolion:
“Diolch yn fawr iawn am ddoe, roedd y trigolion wrth eu boddau – emosiynol iawn.”
Anfonodd Maxine, athrawes yn yr ysgol, neges at Willmott Dixon yn dweud:
“Meddwl y byddwn yn anfon negese e-bost sydyn i ddiolch i chi am heddiw ac i ddymuno Nadolig Llawen... roedd y plant wrth ei boddau gyda’r cyngerdd! Roedd yn hyfryd gweld y trigolion yn cyfarfod y ffrindiau sydd wedi bod yn ysgrifennu atynt! Gobeithio eu bod wedi mwynhau’r canu hefyd!”
Mewn digwyddiad arall a gynhaliwyd yn gynt yn y mis, cyflwynodd Willmott Dixon goeden Nadolig i’r cartref gan gynnal rhost mochyn i’r trigolion ei fwynhau. Yn goron ar y digwyddiad, cyrhaeddodd ceirw Siôn Corn, cafwyd cerddoriaeth arbennig gan ddiddanwr lleol a cyflwynwyd cardiau ac anrhegion Nadolig a wnaed gan ddisgyblion ysgol gynradd Drury i’r trigolion – y mae rhai ohonynt heb weld eu teuluoedd ers mis Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Roeddwn yn siomedig nad oedd modd i fi fynychu’r rhost mochyn yn gynharach y mis hwn, ond yn falch iawn o glywed fod y digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus. Canodd y plant yn hyfryd – rwy’n siwr fod y trigolion i gyd wrth eu boddau. Wedi gweld y gwaith mae Willmott Dixon yn ei wneud, gallaf ddweud eu bod yn gwneud gwaith anhygoel ac yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau’r trigolion mewn cymaint o ffyrdd.”
Meddau Anthony Dillon, rheolwr gyfarwyddwr i Willmott Dixon yn y Gogledd:
“Ochr yn ochr â Chyngor Sir y Fflint, rydym yn rhannu ymrwymiad i adael etifeddiaeth bositif yn ein cymunedau, felly rydym yn falch iawn o allu gwneud gwahaniaeth bach i drigolion y Nadolig hwn. Diolch i’r holl dîm, y staff yn Marleyfield House a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi am sicrhau fod y digwydd mor llwyddiannus.”