Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Gronfa i Fusnesau Dan Gyfyngiadau - Cam 2
Published: 18/12/2020
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth ariannol pellach o 4 Rhagfyr i gefnogi busnesau â’u llif arian a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd cyfyngiadau ychwanegol sy’n angenrheidiol er mwyn rheoli lledaeniad Covid-19.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddyfarnu taliadau grant awtomatig i fusnesau lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £51,000 ac a gafodd grant y cyfnod atal byr diweddar ym mis Hydref/Tachwedd.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae 168 o grantiau wedi’u talu, gyda dyfarniadau’n dod i gyfanswm o £586,000.
Gwnaeth cam nesaf y cynllun grant diweddaraf agor ar gyfer ceisiadau ar-lein o 16 Rhagfyr – mae hyn ar gyfer busnesau lletygarwch sy’n defnyddio eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau lletygarwch mwy yn cael cymorth grant brys am y tro cyntaf dan gynlluniau sydd wedi’u cysylltu ag ardrethi annomestig.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:
“Rydym yn deall bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i lawer o fusnesau, yn enwedig y rhai yn y sector lletygarwch, y mae’r cyfyngiadau diweddaraf wedi effeithio arnynt.
“Rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y taliad awtomatig wedi cael ei dalu i mewn i gyfrifon banc cyn gynted ag sy’n bosibl cyn gwyliau’r Nadolig.
“Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi bod cam nesaf y cynllun ar agor i ymgeiswyr lletygarwch newydd bellach, yn ychwanegol i’r grantiau awtomatig.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy siryfflint.gov.uk/Ardethi-Busnes
Bydd cynllun grant arall sy’n seiliedig ar geisiadau yn agor ar ddechrau mis Ionawr ar gyfer busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden eraill a’u cadwyni cyflenwi, a busnesau manwerthu sy’n gallu dangos gostyngiad o fwy na 40% o ran trosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau newydd. Dylai busnesau barhau i wirio’r wefan ar gyfer manylion pellach.