Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Teuluoedd yn Gyntaf

Published: 10/12/2020

Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo estyniad i’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn eu cyfarfod yn hwyrach y mis hwn. 

Bydd y cymeradwyaeth hwn yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i gyllid pellach am gyfnod o 6 mis, gyda’r opsiwn am 6 mis arall lle bo angen. 

Mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir y Fflint wedi arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau allweddol i rieni, pobl ifanc a theuluoedd â phlant anabl. Mae darpariaeth arloesol y rhaglen dros y tair blynedd ddiwethaf, gyda’r drefniant unigryw o’i sefydlu yn Hwb Cymorth Cynnar amlasiantaeth Sir y Fflint, wedi bod yn llwyddant ysgubol. Mae’r dull integredig hwn wirioneddol wedi amlygu ei hun yn ystod y pandemig Covid-19, gyda dros 200 o bobl ifanc, 368 o rieni a 501 o deuluoedd â phlant ag anableddau’n derbyn cymorth hanfodol.  

Sefydlodd Sir y Fflint Fwrdd Rheoli Teuluoedd yn Gyntaf amlasiantaeth i oruchwylio darpariaeth y rhaglen hon a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru yn lleol a chytunwyd ar gynllun i ganolbwyntio ar:

1. Nodi ac ymgysylltu â theuluoedd sydd mewn perygl o wynebu problemau cynyddol yn gynnar. 

2. Mwy o ddulliau ‘teulu cyfan’ i weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd ag anghenion amrywiol; a 

3. Sefydlu arferion cynhwysol ar draws gwasanaethau atal a chefnogi cynnar ar gyfer teuluoedd â phlant ag anableddau ac ar gyfer teuluoedd y byddai’n well ganddynt dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu iaith o’u dewis nhw. 

Mae’n bwysig bod y gwasanaethau effeithiol a dibynadwy hyn yn gallu parhau â’u gwaith ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r trefniadau cyllido i’r dyfodol.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ein nod wedi parhau yr un fath, sef datblygu a chomisiynu gwasanaethau atal a chefnogi mwy integredig a syml o fis Ebrill 2021. Roedd gwaith wedi dechrau ar hyn, ond, bu’n rhaid oedi’r gwaith er mwyn canolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng Covid-19. Heb yr estyniad hwn, byddai’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r cynlluniau i’r dyfodol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Ein blaenoriaeth yw sicrhau fod y teuluoedd yn Sir y Fflint yn parhau i dderbyn y gefnogaeth arbennig a ddarperir drwy ein Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf lwyddiannus.”