Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fandaliaeth ym Maes Kendrick, Yr Wyddgrug
Published: 19/11/2020
Mae cymuned Yr Wyddgrug wedi eu siomi'n fawr yr wythnos hon wedi i ddau o'r coed Lliwefr sydd newydd eu plannu ym Maes Kendrick ger Parc Tref yr Wyddgrug gael eu difrodi.
Roedd y coed yn rhan o gynllun plannu coed ar draws y sir ac ymdrech gan Gyngor Tref yr Wyddgrug i wella mannau gwyrdd ar gyfer pawb sy'n byw yn yr ardal.
Fe gawsant eu plannu gyda gwirfoddolwyr lleol mewn prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chyngor Tref yr Wyddgrug.
Mae nifer o bobl wedi bod yn mwynhau ein mannau gwyrdd lleol yn ystod pandemig y Coronafeirws a bydd eu gwerth fel rhan o adferiad gwyrdd dros y blynyddoedd sydd i ddod hyd yn oed yn fwy. Mae’r naw coeden lliwefr wedi arddangos lliw hydrefol hyfryd eleni ac roeddent yn datblygu’n gadarn.Mae’r digwyddiadau wedi achosi llawer o ofid yn y gymuned ac mae Cyngor Tref Yr Wyddgrug wedi derbyn o leiaf pum cynnig caredig o ran cymorth ariannol i osod coed newydd yn lle’r rhai a ddifrodwyd.
Mae’r heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad ond os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth cysylltwch â Crimestoppers yn anhysbys ar 0800 555 111.