Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Monitro Perfformiad Canol Blwyddyn
Published: 09/11/2020
Gofynnir i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint nodi ac adolygu’r diweddariad canol blwyddyn ar gynnydd y Cyngor pan fyddant yn cyfarfod ddydd Iau 12 Tachwedd. Caiff yr adroddiad ei gyflwyno wedyn i’r Cabinet ddydd Mawrth 17 Tachwedd.
Cafodd Mesurau Adrodd Cyngor Sir y Fflint 2020/21 eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2020. Cafodd y mesurau hyn eu hail-asesu er mwyn cael rhagolwg o berfformiad yn sgîl yr amhariadau a achoswyd yn ystod yr ymateb i’r pandemig.
Mae’r adroddiad monitro perfformiad canol blwyddyn hwn ar gyfer mesurau adrodd 2020/21 yn dangos bod 69% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Yn y meysydd lle gellir mesur perfformiad yn erbyn perfformiad y llynedd, mae dirywiad o 64% wedi bod yn y tuedd, gyda 31% o fesurau yn gwella ar berfformiad y llynedd a 5% yn parhau i berfformio’n sefydlog.
Mae gan 14 (29%) o ddangosyddion statws coch ar hyn o bryd, ac mae’r rhain i gyd o ganlyniad i ymyriadau a wynebwyd yn ystod sefyllfa Covid-19.
Er gwaethaf hyn, mae timau wedi addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol trwy gydol yr argyfwng, gan gynnwys:
- Mae ein rhaglenni Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy wedi addasu i greu gwasanaeth ar-lein/dros y ffôn mwy digidol. Fel hyn mae’r timau wedi helpu i gefnogi cyfranogwyr ein cynllun mentora gyda 31 o unigolion yn cael mynediad at hyfforddiant pellach a chyflogaeth.
- Er bod y gwaith o wella ein stoc dai wedi parhau, bu’n destun cyfyngiadau ac oedi. Mae'r gwaith yn cyrraedd momentwm rwan ac mae’r tîm yn parhau i wneud cynnydd gyda gwelliannau Safon Ansawdd Tai Cymru ac mae’n blaenoriaethu’r gwaith a’r eiddo yn unol â hynny.
- Mae hawliadau newydd am fudd-daliadau tai a gostyngiad treth i gyd wedi cael eu cyflawni ar amser, er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr hawliadau.
- Mae cynnydd y Cyngor ar adolygu Trefniadau Cludiant Lleol yn parhau ac, ar ôl llacio’r cyfyngiadau teithio dechreuol, mae lefelau defnydd yn adfer a gallwn bellach ailddechrau'r adolygiad.
- Mae canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn cyrraedd y nod.
- Mae cyfanswm y nifer o fesurau arbed ynni a ddarperir i leihau tlodi tanwydd yn llawer uwch na’r targed.
- Er gwaethaf cynnydd o 30% mewn galwadau i wasanaethau Tai a Gwasanaethau Stryd yn ystod yr ail chwarter (o’i gymharu â’r chwarter cyntaf), atebodd y Ganolfan Gyswllt 95% o holl alwadau’r Gwasanaeth Tai a’r Gwasanaethau Stryd a gynigwyd i’r tîm yn ystod hanner cyntaf 2020-21.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
"Trwy ein Strategaeth Adfer a Mesurau Adrodd 2020/21 rydym wedi nodi meysydd a gwasanaethau sy’n bwysig i’r gymuned ac i’n trigolion ac rydym yn mesur ein cynnydd yn erbyn y rhain.
"Er gwaethaf y pwysau aruthrol eleni, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn benderfynol o ddarparu ein blaenoriaethau, sy'n cynnwys cynorthwyo pobl gyda mynediad at dai fforddiadwy addas, addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth".