Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Strategaeth Adferiad
Published: 14/10/2020
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint i nodi adroddiad ar strategaeth adfer y Cyngor yn eu cyfarfod ar ddydd Mawrth, 20 Hydref.
Ar 17 Mawrth 2020 fe gyflwynodd Cyngor Sir y Fflint ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf i’w ymateb i’r pandemig coronafeirws byd-eang COVID-19 a’r datblygiad mewn cynlluniau wrth gefn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Dyma ddechrau cyfnod ymateb i argyfwng gan y Cyngor. I arwain, cefnogi ac amddiffyn ei bobl. Dyma hynny’n parhau tan ddiwedd Gorffennaf 2020.
Yn dilyn sefyllfa o argyfwng mae cyfnod pontio i adferiad, i gefnogi a helpu cymunedau, busnesau ac unigolion sy’n cynllunio dychwelyd i normalrwydd.
Mae strwythur Strategaeth Adfer COVID-19 y Cyngor wedi’i nodi isod:
- Llinell amser o’r ymateb i’r argyfwng hyd at yr adferiad.
- Y trefniadau trosglwyddo o ymateb i adferiad.
- Adferiad y Cyngor fel sefydliad.
- Adferiad y cymunedau a wasanaethwn.
- Blaenoriaethau a pherfformiad strategol y Cyngor ar gyfer gweddill 2020/21.
- Swyddogaeth y Cyngor i adfer yn rhanbarthol.
- Adferiad llywodraethu democrataidd y Cyngor.
Bydd yna dudalen llawn manylder ar wefan y Cyngor sydd yn nodi ein hymateb i COVID-19 a sut yr ydym yn cynllunio i symud i adferiad cynaliadwy. Bydd yn fyw ar ôl y cyfarfod ar 20 Hydref. Bydd dolen i’r dudalen yn cael ei ddosbarthu bryd hynny.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
“Rydym yn byw mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym. Dros y misoedd nesaf, nes bod amser lle bydd y feirws o dan well rheolaeth, mae’n anochel y byddwn yn symud i mewn ac allan o sefyllfa o argyfwng. Trwy reoli’r sefyllfa o argyfwng yn dda gallwn barhau i osod y sylfeini ar gyfer adferiad yn y dyfodol.
“Mae cyfrifoldeb personol gan bawb yn y sefyllfa hon ac unwaith eto rydym yn apelio ar gydweithrediad pawb i ddilyn cyfyngiadau cadw pellter, cymdeithasol ac eraill sydd yn eu lle.
“Mae holl wasanaethau’r Cyngor yn parhau i gael eu gweithredu, rhai gyda chyfyngiadau, er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu byw eu bywydau o ddydd i ddydd.”