Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2019/20
Published: 14/10/2020
Bydd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â chwynion yn erbyn gwasanaethau a dderbyniwyd ac yr ymchwiliwyd iddynt gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/20 yn cael ei rannu yn y Cabinet ddydd Mawrth 20 Hydref.
Gwnaed cyfanswm o 61 o gwynion yn erbyn y Cyngor yn 2019-20. Er bod hyn yn gynnydd o 11 ar y flwyddyn flaenorol, roedd canran uchel o gwynion (80%) naill ai'n gynamserol, allan o awdurdodaeth neu wedi cau ar ôl i'r Ombwdsmon ddechrau eu hystyried. Gostyngodd nifer y cwynion a oedd angen ymyrraeth gan yr Ombwdsmon o 50% yn 2019-20, o 16 i 8.
Enillodd Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2019. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw swyddfa'r Ombwdsmon cyntaf yn y DU i gael pwerau llawn a gweithredol i sbarduno gwelliant systematig i wasanaethau cyhoeddus drwy ymchwiliadau ar ein 'menter ein hun' yn ogystal â'r rôl Safonau Cwynion.
Yn ystod 2019-20, ymgysylltodd y Cyngor yn gadarnhaol â'r pwerau Safonau Cwynion newydd drwy gyflwyno data i'r Awdurdod Safonau Cwynion am y cwynion yr aethpwyd i’r afael â hwy gan y Cyngor. Bydd hyn yn ein helpu i ddysgu mwy am y dirwedd gwynion yng Nghymru a sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
“Mae’r adroddiad yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda chydweithwyr yn swyddfa’r Ombwdsmon i ddatrys cwynion cwsmeriaid yn gynnar lle bynnag y bo modd. Cyflwynwyd polisi’r Cyngor ar gyfer delio â chwynion yn 2012. Byddwn yn adolygu’r polisi hwn ac yn rhoi polisi newydd ar waith erbyn diwedd 2020-21. Bydd hyn yn cynnwys adolygu arferion a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r model ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; sicrhau bod y system a ddefnyddir i gofnodi cwynion yn briodol a hyrwyddo'r polisi newydd i leihau nifer y cwynion cynamserol i'r Ombwdsmon."