Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Aros yn ddiogel aros yn lleol

Published: 02/10/2020

Wrth i’r penwythnos agosáu, mae’n rhaid i bawb ohonom ni gofio na chaiff preswylwyr deithio i mewn nac allan o Sir y Fflint heb reswm dilys.

Mae hyn hefyd yn golygu na chaiff pobl o du allan i Sir y Fflint ymweld â’n parciau a’n cyfleusterau hamdden – mae’r rhain ar gyfer preswylwyr lleol yn unig am y tro.  Mae’r rhain yn cynnwys Parc Gwepra, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, Parc Gwledig Waun-Y-Llyn a Thalacre.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y bydd swyddogion yn weladwy yn ein cymunedau, ac yn gweithio i egluro ac annog cydymffurfiaeth. 

Dyma’r prif gyfyngiadau:

  • ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i ardal Cyngor Sir y Fflint, na gadael yr ardal, heb esgus rhesymol
  • ni fydd pobl yn cael ffurfio aelwyd estynedig mwyach, na bod yn rhan o aelwyd estynedig (a elwir weithiau'n "swigen”)
  • mae hyn yn golygu na chaniateir ichi gwrdd ag unrhyw un dan do nad yw'n rhan o'ch aelwyd (y bobl sy'n byw gyda chi) ar hyn o bryd, oni bai bod gennych reswm da dros wneud hynny, fel gofalu am berson sy'n agored i niwed
  • bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • rhaid i bobl weithio gartref lle bynnag y bo modd

Cydweithredwch, dilynwch y rheolau ac ‘arhoswch yn ddiogel, arhoswch yn lleol’.