Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
Published: 08/09/2020
Bydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn ailagor eu swyddfeydd ym Mhenarlâg a Rhuthun i’r cyhoedd ym mis Medi. Rydym yn cynllunio ar gyfer ailagor fesul cam, gyda mesurau diogelwch ar waith, i’n helpu i sicrhau bod ein hystafelloedd chwilio yn lle diogel i bawb.
O 15 Medi 2020, bydd cangen Penarlâg ar agor ar ddydd Mawrth – 10.00am-4.30pm (a bydd yn cau dros ginio rhwng 12.45pm a 1.45pm).
O 18 Medi 2020, bydd cangen Rhuthun ar agor ar ddydd Gwener – 10.00am-4.30pm (a bydd yn cau dros ginio rhwng 12.45pm a 1.45pm).
Mae system archebu ar waith a bydd angen i chi drefnu eich ymweliad o leiaf 72 awr o flaen llaw. Dylech chi drefnu sesiwn yn y bore neu’r prynhawn er mwyn caniatáu i gymaint o ymchwilwyr â phosibl fynd i weld yr archifau yn ystod ein cyfnod ailagor fesul cam.
Mae’n rhaid archebu dogfennau cyn ymweld â’r archifau, hyd at uchafswm o 10 eitem, a byddant yn barod i chi eu gweld pan fyddwch yn cyrraedd. Ewch i’n gwefan i gael manylion ac i ddefnyddio’r catalogau ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Cerdyn Archifau hefyd. Mae manylion ar ein gwefan.
I drefnu ymweliad, defnyddiwch ein gwefan newydd a fydd ar gael o ddydd Llun 7 Medi - www.agddc.cymru.
Neu anfonwch e-bost atom - archives@newa.wales.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein hymchwilwyr yn ôl i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.