Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgolion i ailagor ar 29 Mehefin
Published: 23/06/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi y bydd tymor yr ysgol yn dod i ben ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf.
Y rheswm dros hyn yw nad yw Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur wedi llwyddo i gytuno ar y cynnig i ymestyn tymor yr haf hyd at 24 Gorffennaf, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams. Roeddem wedi gobeithio y byddai’r materion hyn wedi cael eu datrys ond yn absenoldeb cytundeb cenedlaethol, mae’r Cyngor wedi gorfod gwneud penderfyniad er mwyn rhoi digon o amser i ysgolion allu cynllunio’n briodol. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai gan ysgolion ddigon o staff ar gael i weithredu’n ddiogel yn ystod y bedwaredd wythnos ar sail wirfoddol gan nad yw staff wedi’u rhwymo dan gontract i weithio yn ystod y gwyliau. Yn gyntaf oll, mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau diogelwch ei ddisgyblion a’i staff. Mae Ffederasiwn Penaethiaid Sir y Fflint yn llwyr gefnogi’r penderfyniad hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
“Tra bod y Cyngor yn cefnogi’r cyhoeddiad i ymestyn tymor yr ysgol, daeth hi’n amlwg heb unrhyw gytundeb cenedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur, nad oedd modd i ni sicrhau y byddai digon o staff yn yr ysgolion. Mae diogelwch ei disgyblion a’i staff yn holl bwysig.”
Mae’r awdurdod lleol yn awyddus i weithio gydag ysgolion a rhieni/gofalwyr i sicrhau fod pob disgybl yn elwa o gyfle i ailgydio, dal i fyny gyda’u cyfoedion ac athrawon, a pharatoi ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.
O ddydd Llun 29 Mehefin, bydd ysgolion Sir y Fflint yn dechrau derbyn eu disgyblion eu hunain i fynychu sesiynau a nodwyd.
O ganlyniad i’r ddeddfwriaeth o ran cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a sicrhau iechyd a diogelwch yr holl ddysgwyr a staff, ni fydd ysgolion yn gweithredu darpariaeth llawn amser ar gyfer pob disgybl yn ystod y cyfnod hwn o bedair wythnos, ac ni fyddwn yn dychwelyd i addysgu’r cwricwlwm llawn chwaith. Ni fydd pob disgybl yn dychwelyd ar unwaith, a phan fyddant yn dychwelyd, mae’n bosibl y bydd y diwrnod ysgol yn dechrau a gorffen ar wahanol amseroedd ar gyfer gwahanol ddysgwyr. Gallai hyn gynnwys gwahanol drefniadau ar gyfer brodyr a chwiorydd o wahanol oedrannau sy’n mynychu’r un ysgol. Mae ysgolion wedi bod yn rhannu eu trefniadau eu hunain gyda rhieni ac maent yn barod i groesawu eu dysgwyr yn ôl.