Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Aros yn Ddiogel Aros yn Lleol
Published: 12/06/2020
Mae newidiadau diweddar i reoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i ddwy aelwyd o fewn yr un ardal leol gyfarfod â’i gilydd yn yr awyr agored.
Mae ‘lleol’ yn gyffredinol yn golygu peidio â theithio mwy na phum milltir o’ch cartref.
Byddwn yn parhau i gadw at reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru a’r DU ac mae’n hanfodol bod pobl yn Sir y Fflint a thu hwnt yn parhau i ddilyn y rhain hefyd, gan gynnwys y rhai sy’n gwahardd pobl rhag gyrru i lefydd er mwyn gwneud ymarfer corff, oni bai bod ganddynt broblemau symudedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithredu’n gyfrifol ac yn ystyried eraill ac yn dilyn y rheolau.
Mae’r maes parcio ym Mharc Wepre yng Nghei Connah yn parhau dan glo ac mae’r ardal chwarae, canolfan ymwelwyr a’r toiledau yn dal wedi cau. Mae yna le parcio cyfreithiol cyfyngedig mewn cyrchfannau poblogaidd fel Talacre a bydd ein Swyddogion Gorfodi yn parhau i batrolio’r ardal hon ac ardaloedd eraill yn rheolaidd.
Bydd y meysydd parcio canlynol yn parhau i fod ar gau tan y dywedir yn wahanol:
- Dock Road, Cei Connah
- Castell y Fflint
- Gorsaf y Bad Achub, y Fflint
- Pont Droed Saltney Ferry
- Dock Road, Maes Glas
- Golygfan Gwaenysgor
- Gamfa Wen, Talacre
- Station Road, Talacre
Mae Maes Parcio’r Goleudy, Talacre hefyd wedi’i gau gan y perchennog.
Mae ardaloedd ble rydym wedi cael adroddiadau blaenorol bod pobl yn ymgynnull yn parhau i gael eu monitro gan Heddlu Gogledd Cymru.
Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i’n parciau gwledydd godidog a llefydd gwych eraill yn Sir y Fflint, ond am y tro, cydweithredwch, dilynwch y rheolau ac ‘arhoswch yn ddiogel, arhoswch yn lleol’.