Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg
Published: 11/06/2020
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Mehefin.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi sut y mae wedi bodloni’r 171 Safon Iaith Gymraeg a osodwyd ym mis Medi 2015 gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn rhoi cyfle i sefydlu beth mae’r Cyngor wedi ei wneud i fodloni’r safonau ac arddangos enghreifftiau o arferion da. Bu meysydd o gyflawniad rhagorol yn ystod y flwyddyn:
- Roedd mwy o siopau wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth addurno ffenestr siop ar Ddydd Gwyl Dewi
- Rhoddwyd grant i gynyddu’r nifer o ddigwyddiadau Dydd Gwyl Dewi i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam, oedd yn cynnwys cefnogi digwyddiad yng Nghei Connah.
- Roedd y Tîm Busnes hefyd yn gweithio gyda busnesau i’w hannog i hybu cynnyrch Cymreig a chyfrannu at Ddiwrnod Miwsig Cymru, ble bo’n bosibl, yn ogystal â Dydd Gwyl Dewi.
- Roedd Theatr Clwyd wedi parhau i gynnwys perfformiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn eu rhaglen, gan gynnwys cynhyrchiad dwyieithog llwyddiannus o “Derfysg Yr Wyddgrug” i nodi 150 mlynedd ers y terfysgoedd. Roedd Dosbarthiadau Cymraeg wythnosol wedi eu cynnal i aelodau o’r cast oedd eisiau dysgu Cymraeg i adrodd y stori.
- Roedd Theatr Clwyd hefyd wedi datblygu prosiect peilot dwyieithog Parkinson gan weithio gyda Parkinson’s UK, yn defnyddio dawns, cerddoriaeth a drama i bobl oedd yn byw gyda Parkinson’s.
- Mae sesiynau sgwrsio wythnosol ‘Paned a Sgwrs’ i gefnogi ein gweithwyr sy’n dysgu Cymraeg neu sydd wedi colli hyder i siarad Cymraeg wedi parhau, gan roi cyfle i ymarfer Cymraeg mewn amgylchedd diogel.
Mae yna rai meysydd ar gyfer gwneud cynnydd a ble mae dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yn cynorthwyo i weithredu’r safonau:
- Mae mwy o weithwyr angen cwblhau cyrsiau sydd ar gael ar ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.
- Rydym angen cynyddu’r nifer o weithwyr sy’n siarad Cymraeg a lleihau’r nifer o weithwyr heb unrhyw wybodaeth o’r Gymraeg. Bydd hyn yn cefnogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau dwyieithog a bodloni anghenion cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.
Cynhaliwyd archwiliad i ddwy gwyn yn ymwneud â'r Gymraeg gan y Comisiynydd. Roedd y rhain yn ymwneud â deunydd a gohebiaeth hyrwyddo.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyflawni’r safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor.”
Mae amryw ddulliau cyfathrebu’n cael eu hystyried i sicrhau bod rheolwyr a gweithwyr yn gweithio o fewn y safonau.