Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd i Ailddechrau ar ddydd Llun 8 Mehefin
Published: 02/06/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi y bydd y gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ailddechrau ddydd Llun 8 Mehefin 2020 gan gasglu bob pythefnos ar y diwrnod casglu arferol.
Fel rheol caiff gwastraff gardd ei gasglu’r un diwrnod â’r ailgylchu a’r gwastraff bwyd, bob yn ail â’r casgliadau biniau du. Gallwch wirio eich diwrnodau casglu ar ein gwefan (www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/Check-your-bin-day.aspx).
Gofynnwn:
• fod eich label melyn ynghlwm â’ch bin brown;
• i chi sicrhau fod eich bin brown allan erbyn 7.00am ar ddiwrnod eich casgliad;
• bod eich bin brown yn cynnwys gwastraff gardd yn unig;
• nad oes unrhyw wastraff yn cael ei adael y tu allan i’r bin;
eich bod yn golchi handlenni eich bin cyn ac ar ôl y casgliad;
eich bod yn golchi eich dwylo cyn ac ar ôl cyffwrdd eich bin.
Os ydych chi eisoes wedi talu a chofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu 2020, ond heb dderbyn eich label melyn, rhowch eich cyfeirnod talu ar eich bin brown.
Os hoffech chi danysgrifio ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2020, gallwch wneud hynny ar-lein www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd2020 neu drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01352 701234 o dydd Iau, 4 Mehefin. Y pris i danysgrifio am weddill y flwyddyn yw £24.00 ar gyfer taliadau ar-lein neu £27.00 os byddwch chi’n talu drwy ffonio’r Ganolfan Gyswllt.
Bydd preswylwyr oedd wedi tanysgrifio ar gyfer gwasanaeth 2020 cyn iddo gael ei atal yn cael cynnig gostyngiad o £8 oddi ar eu tâl tanysgrifio ar gyfer 2021 yn gydnabyddiaeth bod y gwasanaeth wedi cael ei atal rhwng mis Mawrth a Mehefin. Bydd pobl yn gwerthfawrogi fod ein Canolfan Gyswllt yn eithriadol o brysur ar hyn o bryd, er enghraifft yn cefnogi pobl ddiamddiffyn sy’n cael eu gwarchod, ac nid yw’r Ganolfan mewn sefyllfa i brosesu ceisiadau am ad-daliad o £8 eleni.
Bydd rhagor o wybodaeth am ffioedd ar gyfer gwasanaeth casglu 2021 yn cael ei ryddhau yn nes ymlaen eleni.