Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Micro-Ofal – model gofal newydd ar gyfer Sir y Fflint
Published: 27/05/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio i gefnogi pob un o’i breswylwyr trwy heriau’r sefyllfa bresennol. Mae’n cydnabod y cyfraniadau sy’n cael eu gwneud gan breswylwyr lleol, grwpiau cymunedol ac amrywiaeth o asiantaethau, i gefnogi pobl i aros yn ddiogel ac iach yn eu cartrefi eu hunain.
Pan fydd y sefyllfa bresennol yn gwella, mae prinder cenedlaethol o ofalwyr o hyd i fodloni’r galw cynyddol am ofal i alluogi pobl i fyw’n annibynnol gartref. Er mwyn bodloni’r her hon, mae’r Cyngor wedi cyflwyno dull newydd arloesol o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n gallu darparu gofal i’n preswylwyr. Enw’r dull newydd hwn yw Meicro-Ofal.
Mae Meicro-Ofal yn disgrifio busnesau bach iawn sy’n amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy’n cyflogi pump o bobl, sy’n cynnig gwasanaethau math gofal, cefnogaeth neu les hyblyg wedi’u personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn. Yn nodweddiadol, mae’r mathau o wasanaethau y gall meicro-ofalwyr eu darparu yn cynnwys:
- gofal personol gartref;
- gofal dydd;
- cefnogaeth i ymgysylltu mewn gweithgareddau cymunedol neu gymdeithasol;
- gwasanaethau sy’n ymwneud â lles, fel glanhau, siopa neu fynd gydag unigolion i apwyntiadau.
|
|
Mae’r Cyngor am annog a chefnogi pobl ar draws y Sir i fod yn feicro-ofalwyr. Gall unrhyw un fod yn feicro-ofalwr, a gallai’r bobl hyn fod â diddordeb:
- pobl sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau gofal ond nad oes ganddynt brofiad o bosibl;
- pobl sy’n gweithio yn y sector gofal ar hyn o bryd ond sydd â diddordeb mewn bod yn fos arnynt eu hunain;
- pobl sydd eisoes yn cefnogi pobl yn weithredol yn eu cymunedau lleol;
- pobl sy’n gofalu am anwyliaid eisoes;
- pobl sydd am wneud rhywbeth sy’n cefnogi pobl eraill a gwneud gwahaniaeth.
Mae’r Cyngor, mewn partneriaeth gyda Cadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, wedi cyflogi dau swyddog datblygu Meicro-Ofal. Byddan nhw’n gweithio gydag unigolion i:
- gefnogi a’u mentora i ddatblygu eu busnes neu syniad;
- darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid a chefnogaeth ac adnoddau eraill sydd ar gael;
- cefnogi unigolion i ddatblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru;
- eu cysylltu â rhwydwaith darparwyr meicro-ofal eraill ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid.
Yn dibynnu ar natur y meicro-fusnes, mae’n bosibl y bydd cyllid dechreuol ar gael hefyd.
Os ydych yn credu y gallech chi helpu i gefnogi pobl yn eich cymuned leol, neu os ydych yn adnabod rhywun a allai fod â diddordeb, cysylltwch â naill ai Marianne Lewis neu Rob Loudon ar 01352 702126 neu 01352 702461 i gael sgwrs, neu anfonwch e-bost atynt yn micro-care@flintshire.gov.uk.