Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn cefnogi busnesau
Published: 15/05/2020
Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod nhw’n derbyn y grantiau a’r cymorth mae ganddynt hawl iddynt mor gyflym â phosib’. Yr wythnos yma, dyma sydd wedi’i ddyfarnu:
Grantiau:
Cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu’r wythnos yma: 102 – 1.1M
Cyfanswm y grantiau sydd wedi’u dyfarnu: 2,274- £27.4M
Cymorth i Fanwerthwyr:
Cyfanswm y Rhyddhad a ddyfarnwyd yr wythnos yma: 8 – 120k
Cyfanswm y Rhyddhad a ddyfarnwyd: 1,135 - £15.1M
Os nad yw'ch busnes wedi gwneud cais eto, llenwch y ffurflen ar-lein ar siryfflint.gov.uk/ardrethibusnes.
Mae grantiau cymorth i fusnesau yn cael eu dyfarnu fel ‘cymorth de minimis’ o dan Reoliadau CE. Mae’r Rheoliadau ‘de minimis’ yn caniatáu i fusnesau dderbyn hyd at £200,000 o gymorth mewn cyfnod o dair blynedd. Mae hyn yn cynnwys y flwyddyn ariannol bresennol a’r ddwy flynedd ariannol flaenorol. Gofynnir i fusnesau sy’n derbyn grant nawr lenwi ffurflen datgan cymorth gwladwriaethol ar-lein.