Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Annog deiliaid tai yng Nghymru i gadw’n glir o weithredwyr gwaredu sbwriel anghyfreithlon sy’n hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol
Published: 30/04/2020
Mae Taclo Tipio Cymru yn annog deiliaid tai ledled Cymru i reoli eu sbwriel mewn modd cyfrifol a bod yn wyliadwrus wrth dderbyn cynigion gan unigolion sy’n honni ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn fusnesau gwaredu gwastraff cyfreithlon yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.
Hefyd, caiff deiliaid tai eu hannog i ohirio prosiectau garddio a DIY hyd nes y caiff y cyfyngiadau symud eu codi, oni bai y bydd modd iddynt storio’r gwastraff ychwanegol yn eu cartrefi heb arwain at risgiau iechyd a diogelwch, fel peryglon tân.
Mae’r rhybudd llym a’r negeseuon allweddol gan Taclo Tipio Cymru yn dilyn pryderon ymhlith awdurdodau lleol ynghylch y nifer o bobl sy’n cynnig gwasanaethau gwaredu sbwriel anghyfreithlon mewn grwpiau cymunedol, fel y rhai sydd ar Facebook – rhywbeth y maent yn ofni ei fod ar gynnydd ers i’r cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol ddod i rym yng Nghymru.
Er bod nifer o bobl eisoes yn ceisio cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl, gan gael gwared ag ef yn y dull priodol, caiff deiliaid tai eu hatgoffa fod ganddynt ddyletswydd gofal gyfreithiol i gadarnhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod y sawl a ddefnyddir ganddynt i gael gwared â’r sbwriel o’u cartref yn gludydd gwastraff cofrestredig – yn enwedig ar hyn o bryd, a ninnau yng nghanol argyfwng cenedlaethol.
Yn unol â chyngor iechyd a diogelwch a gyhoeddwyd gan DEFRA, mae’r holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yng Nghymru wedi cael eu cau hyd nes y clywir yn wahanol.
Felly, mae Taclo Tipio Cymru yn rhybuddio bod deiliaid tai yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan unigolion nad ydynt wedi cofrestru, sy’n manteisio ar y cyfyngiadau symud trwy gynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff rhad. Yn aml, mae’r unigolion hyn yn gollwng y gwastraff yn anghyfreithlon mewn caeau, ar ymylon ffyrdd ac ar hyd lonydd cefn gwlad.
Os yw swyddog gorfodi gwastraff yn llwyddo i olrhain sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon at ddeiliad ty a aeth ati i ddefnyddio gwasanaethau rhywun heb wirio ei fod yn gludydd gwastraff cofrestredig, fe allai’r deiliad ty hwnnw wynebu dirwy ddiderfyn a chael ei erlyn. Ymhellach, gall awdurdodau lleol ledled Cymru gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £300 i ddeiliaid tai, yn hytrach na’u herlyn.
Gellir dod o hyd i restr o gludwyr gwastraff cofrestredig – y dylid ei defnyddio i wneud y gwiriadau hollbwysig hyn – ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell y dylai pobl ofyn i ble y bydd eu sbwriel yn mynd, ynghyd â gofyn am dderbynneb gan y cwmni a ddefnyddiwyd i gael gwared â’r gwastraff a chofnodi manylion y cerbyd a ddefnyddiwyd, yn cynnwys ei wneuthuriad, ei fodel a’i rif cofrestru.