Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosesau Democrataidd
Published: 17/04/2020
Yn ystod y sefyllfa argyfyngus bresennol, mae’r Cyngor wedi addasu ei brosesau democrataidd er mwyn galluogi penderfyniadau brys i gael eu gwneud. Rydym wedi cyflwyno proses gwneud penderfyniadau gan ‘Aelod Cabinet Unigol’ fel bod penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn modd trylwyr a gydag atebolrwydd dyledus.
Tri diwrnod clir cyn i Aelod Cabinet wneud penderfyniad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi agenda ar wefan y Cyngor (www.siryfflint.gov.uk) gydag adroddiad yn dadansoddi’r materion a gwneud argymhelliad. Yna gall Cynghorwyr a’r cyhoedd anfon unrhyw sylwadau dros e-bost at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, cyn y dyddiad/amser penodedig ar gyfer gwneud y penderfyniad, a bydd y rheolwr yn tynnu sylw’r Aelod Cabinet atynt wedyn cyn i’r penderfyniad gael ei wneud.
Yn ystod y cyfnod lle na all y Pwyllgor Cynllunio gyfarfod, mae proses wedi’i rhoi ar waith a fydd yn caniatáu i geisiadau cynllunio brys gael eu penderfynu tra nad oes modd i gyfarfodydd arferol gael eu cynnal. Caiff ceisiadau o’r fath eu penderfynu gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), ar ôl ystyried barn yr ymgeisydd, aelodau’r cyhoedd, ymgyngoreion, yr Aelod Lleol ac aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Caiff unrhyw adroddiadau o ran ceisiadau cynllunio brys i gael eu penderfynu, eu llwytho ar wefan y Cyngor, a hefyd unrhyw benderfyniadau a wneir.