Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Meddyliwch am eich gwastraff!
Published: 17/04/2020
Mae’r Cyngor yn gofyn i breswylwyr i beidio dechrau ar brosiectau DIY neu lanhau ar hyn o bryd os na ellir storio neu waredu deunyddiau gwastraff yn briodol.
Bydd nifer o bobl yn defnyddio'r cyfnod argyfwng presennol fel cyfle i lanhau eu ty neu i roi sylw i'w gerddi. Dylai preswylwyr ystyried yn ofalus sut, pryd a lle gallent waredu â’u gwastraff cyn dechrau unrhyw waith.
Nid yw tipio anghyfreithlon yn dderbyniol ac mae’n weithgaredd troseddol:
- a all ddifrodi’r amgylchedd;
- yn berygl i iechyd dynol;
- yn gallu niweidio bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm;
- yn dargyfeirio ein criwiau rhag cyflawni eu casgliadau gwastraff ac ailgylchu arferol.
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i breswylwyr waredu â'u deunyddiau gwastraff eu hunain yn gyfrifol. Os canfyddir bod eich gwastraff wedi'i ei adael yn anghyfreithlon, pa un ai ydych yn gwybod amdano neu beidio, fe allech chi wynebu dirwy o hyd at £ 5,000. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tipio anghyfreithlon yn wynebu erlyniad a dirwy fawr.
Rydym yn deall bod gan breswylwyr bryderon ynghylch maint gwastraff sy'n cynyddu yn eu heiddo, ond nid rwân yw'r amser i geisio gwaredu eitemau o'r fath ar ôl glanhau neu brosiect DIY.
Cofiwch ystyried iechyd a diogelwch pawb a gwaredu â'ch gwastraff yn gyfrifol neu ei gadw adref tan fydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty yn ailagor ac elusennau yn gallu casglu dodrefni a dillad pan fydd y cyfyngiadau cyfredol wedi eu lliniaru.