Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Marchnad yr Wyddgrug
Published: 09/04/2020
Mae Marchnad yr Wyddgrug ar agor ar hyn o bryd, gyda nifer cyfyngedig o fasnachwyr a stondinau yn gwerthu bwyd a nwyddau hanfodol. Sefydlwyd y trefniant hwn dan ddealltwriaeth lem bod yn rhaid cadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Mae ein Tîm Marchnadoedd wedi bod yn gweithio gyda masnachwyr a chwsmeriaid gan gynnig canllawiau ar reolau ac ymddygiad cadw pellter cymdeithasol. Mae cydweithrediad pawb sydd ynghlwm â’r farchnad yn hanfodol er mwyn cynnal amgylchedd diogel.
Rydym wedi derbyn nifer o bryderon ynghylch cadw pellter cymdeithasol rhwng cwsmeriaid a masnachwyr. Os byddwn yn dod i wybod nad yw’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn, ni fydd dewis gennym ond cloi’r farchnad nes y clywir yn wahanol.
Deallwn fod nifer o bobl yn gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar y farchnad. Cau’r farchnad fydd y dewis olaf. Mae’n rhaid i ni flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein masnachwyr a’n cwsmeriaid. Gofynnwn yn garedig am gydweithrediad y cyhoedd.