Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llywodraeth Cymru C-CAS - trefniadau gofal plant newydd ar gyfer plant dan oed ysgol
Published: 07/04/2020
Mae Tîm Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint (sy’n cynnwys timau Dechrau'n Deg, Cynnig Gofal Plant a Hawl Bore Oes) yn parhau i weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid CWLWM (Blynyddoedd Cynnar Cymru, PACEY, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, Mudiad Meithrin) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.
Bydd hyn yn sicrhau bod gofal plant cyson a hygyrch ar gael i gefnogi gweithwyr hanfodol a'r plant mwyaf diamddiffyn. Darllenwch hwn ar y cyd â chyhoeddiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad i’r wasg sy’n nodi ei bod yn lansio cynllun cymorth gofal plant coronafeirws i gefnogi gweithwyr hanfodol Cymru. Bydd y cynnig gofal plant presennol yn cael ei atal am dri mis ac yn cael ei ddisodli gan gynllun cymorth gofal plant coronafeirws i gefnogi gweithwyr hanfodol a phlant diamddiffyn.
Dan y cynlluniau newydd bydd cynghorau yn gallu defnyddio cyllid gan Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr gofal plant cofrestredig i ofalu am blant dan oed ysgol y mae eu rhieni yn weithwyr hanfodol h.y. gweithwyr sy’n hanfodol i’r ymateb i’r argyfwng Covid-19. Bydd plant sy’n cael eu hystyried yn ddiamddiffyn gan unigolion enwebedig o fewn y gwasanaeth iechyd a’r Awdurdod Lleol hefyd yn rhan o’r cynllun hwn.
Bydd y newidiadau hyn yn berthnasol ar gyfer y tri mis nesaf ac yn darparu gofal i blant 0-4 oed (dan oed ysgol) yn Sir y Fflint.
Mae Tîm Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint yn gweithio gyda chydweithwyr a Llywodraeth Cymru i ddatblygu system briodol i weinyddu’r trefniadau newydd yn unol â’r canllawiau newydd. Wrth i ni geisio gweithredu’r trefniadau newydd, trïwch beidio â'n llwytho gydag ymholiadau er mwyn i ni allu gweithredu’r newidiadau cyn gynted â phosibl.
Os oes arnoch chi angen cysylltu â ni, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar e-bost fisf@flintshire.gov.uk. Wrth i ni wneud y newidiadau hyn mae’n bosibl y bydd ychydig o oedi cyn i ni ymateb i’ch ymholiadau, a gobeithio y byddwch chi’n deall hynny. Diolch am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym ni’n bwriadu anfon llythyr gan Ddechrau'n Deg i bob lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, a gan Wasanaeth Cymorth y Blynyddoedd Cynnar i bob lleoliad gofal plant, ynglyn â’n cynlluniau a’n cynnydd ac i gadarnhau’r trefniadau gyda darparwyr unigol.