Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grantiau i fusnesau
Published: 03/04/2020
Mae'r Cyngor wrthi’n prosesu grantiau ardrethi busnes i’r rhai sy’n gymwys am gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd y swp cyntaf o grantiau argyfwng yn cael eu talu i 800 o fusnesau Sir y Fflint (gwerth £10m) o dydd Llun 6 Ebrill. Rydym wedi gwei thredu'n brydlon i gefnogi ein cymuned fusnes.
Mae dau gynllun grantiau fel nodir isod.
Grant 1 – bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.
Grant 2 - bydd busnesau sy’n bresennol yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach gyda gwerth ardrethol hyd at £12,000 yn cael grant o £10,000.
Os nad yw eich busnes wedi gwneud cais eto, gallwch lenwi’r ffurflen gais ar-lein.
Cymorth a Chyngor I fusnesau ar gael ar ein gwefan yma.