Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prydau Ysgol am Ddim - Wythnos yn dechrau dydd Llun 30 Mawrth
Published: 27/03/2020
O’r wythnos nesaf ymlaen, nes clywir yn wahanol, bydd disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael pecyn bwyd wedi’i ddanfon i’w cartrefi.
Mae’r gwasanaeth yma'n cael ei ddarparu gan Arlwyo a Glanhau NEWydd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, ac mae’n cael ei ddarparu yn lle’r prydau ysgol arferol.
Gwnewch yn siwr eich bod chi’n darllen yr wybodaeth am alergeddau bwyd ar y pecyn i osgoi anoddefiadau bwyd.
Cofiwch, trefniadau dros dro ydi'r rhain a byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newid.
Os oes gan rieni unrhyw gwestiwn neu bryder, dylid cysylltu â Chyngor Sir y Fflint ar 01352 752121 neu freeschoolmeals@flintshire.gov.uk.
O ddydd Llun 30 Mawrth bydd pob plentyn sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael pecyn bwyd wedi’i ddanfon at ddrws eu ty. Does dim rhaid i ddisgyblion fynd i’r ysgol nac i’r ganolfan ardal.