Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Erlyn busnes golchi ceir
Published: 24/03/2020
Mae’n rhaid i fusnes golchi ceir yn Sir y Fflint dalu dirwy o £3,193 am beidio â chydymffurfio â rhybuddion diddymiad niwsans ar ôl achosi niwsans swn a chwistrellu dwr.
Roedd y swn a’r chwistrellu yn cael ei achosi gan y cyfleuster golchi â chwistrell, ac roedd swn ychwanegol yn sgil glanhau ceir yn defnyddio dau sugnwr llwch. Roedd y cyfleusterau yn golygu bod modd golchi dau gar ar yr un pryd.
Plediodd y ddau ddiffynnydd, Darren Davies y perchennog a Mr Arram Mahmud, gweithredwr y cyfleuster golchi ceir, yn euog yn Llys yr Ynadon, Wrecsam, ar 17 Mawrth 2020.
Ar ôl derbyn sawl rhybudd a chwynion pellach, gwelodd swyddogion y Cyngor y gwaith golchi ceir a oedd yn achosi’r niwsans â’u llygaid eu hunain.
Derbyniodd y diffynwyr rybuddion diddymiad ar 13 Rhagfyr 2019 ar ôl i swyddogion eu rhybuddio eu bod yn achosi niwsans i breswylydd yr eiddo drws nesaf. Roedd modd clywed y niwsans swn y tu mewn i’r eiddo ac roedd y chwistrellu dwr a’r swn yn golygu nad oedd modd defnyddio'r patio tu allan na'r ardd.
Parhaodd y gwaith a chafwyd gwarant i symud yr holl gyfarpar a oedd yn gyfrifol am y swn oddi ar y safle, gan gynnwys dau bwmp chwistrellu â dwr a dau sugnwr llwch diwydiannol.
Gorchmynnodd yr ynadon bod Mr Davies yn talu dirwy o £925 a bod Mahmud yn talu dirwy o £2,790. Dywedodd yr ynadon bod Mr Mahmud wedi diystyru’r gyfraith a bod ei ddirwy yn adlewyrchu hynny.
Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:
“Fel unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol arall, gall niwsans swn achosi cryn dipyn o drallod. Hoffaf ddiolch i’n swyddogion rheoli llygredd am eu gwaith da i adfer ychydig o’r heddwch i fywyd y cymydog."