Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Degawd newydd, dechrau newydd? Dewch i gwrdd â’n mentoriaid cyflogaeth
Published: 30/01/2020
Nid yw newid yn beth hawdd. Gall y syniad o wneud rhywbeth gwahanol fod yn ddigon i wneud i ni deimlo’n anesmwyth.
Fel y dywedodd Walt Disney, “The way to get started is to quit talking and begin doing.”
Os ydych chi’n ystyried gwneud newid eleni ac yn chwilio am gymorth a chymhelliant, rydym ni yma i chi.
Mae sefyllfa pawb yn wahanol. Efallai eich bod yn gweithio, ond nid yw’r swydd yn cynnig digon o oriau. Neu efallai eich bod yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth gwahanol ond ddim yn gwybod ble i ddechrau. Neu ydych chi’n ddi-waith neu’n wynebu diswyddiad ar hyn o bryd?
Beth bynnag eich sefyllfa, fe allwn eich helpu!
Mae ein mentoriaid yn darparu sesiynau mentora dwys un i un yn rhad ac am ddim er mwyn eich helpu i ganfod a chymryd camau ymarferol i oresgyn rhwystrau sy’n eich hatal rhag cael gwaith.
Sut allwn eich helpu chi? Dyma restr i chi ei hystyried:
• Ysgrifennu CV
• Sgiliau cyfweld
• Cyrsiau
• Cymwysterau
• Lleoliadau gwaith
• Cysylltiadau â chyflogwyr
• Magu hyder
• Cyfeirio at gymorth
• Gwirfoddoli
Pwy ydym ni?
Mae gennym fentoriaid cyflogaeth ar draws Sir y Fflint.
Dan Wade a Coran Halfpenny-Williams yw ei mentoriaid ar gyfer pobl ifanc (16-24 oed) ac mae’r ddau ohonynt yn frwd iawn dros eu gwaith – maent yn brofiadol ac yn gwerthfawrogi’r heriau sydd yn aml yn wynebu pobl ifanc.
Mae Dan yn 38 mlwydd oed ac yn dod o Fangor yng Ngwynedd. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol yn cefnogi ac yn mentora pobl ifanc i ganfod gwaith.
Meddai Dan:
“Rwyf wedi bod yn gweithio fel mentor yn Sir y Fflint ers mis Gorffennaf 2017 – rwyf wir yn mwynhau fy swydd gan ei bod yn ymwneud â helpu pobl ac mae bob diwrnod yn wahanol i’w gilydd. Rwyf wedi fy lleoli yn y gymuned sy’n cynnwys gweithio mewn amryw o leoliad anffurfiol megis caffis a llyfrgelloedd.
“Pe bawn yn gorfod disgrifio fy rôl, buaswn yn dweud fy mod megis brawd mawr. Mae’n hawdd iawn sgwrsio â mi ac rwyf wastad allan yn cwrdd â phobl newydd ac yn creu cysylltiadau gwaith gwych â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac asiantaethau cymorth eraill. Byddaf yn berson arall yno i’ch cefnogi a gweithredu er eich budd chi ar eich taith i ganfod cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg.
“Mae pawb yn wahanol – efallai bod rhai unigolion angen cymorth â llunio CV a chanfod swyddi gwag addas ac mae’r unigolion hyn yn dueddol o ganfod cyflogaeth cynaliadwy yn gyflym iawn.
“Efallai bod eraill angen cymorth mwy dwys megis cyngor a chyfarwyddyd ar ganfod llwybr gyrfa sy’n addas ar eu cyfer ac y maent yn ei fwynhau. Gallaf gynorthwyo â chanfod cyrsiau hyfforddi perthnasol, lleoliad gwaith, a chwblhau sesiynau cyfweld a magu hyder.”
Gallwch gysylltu â Dan drwy ffonio neu anfon neges destun at 07880 082558. Mae Dan hefyd yng Nghanolfan Daniel Owen yn Yr Wyddgrug bob dydd Mawrth rhwng 1pm-2pm – cewch alw heibio i’w weld.
Mae Coran yn 27 mlwydd oed ac fe ymunodd â’r tîm Cymunedau am Waith ym mis Hydref 2019. Meddai Coran:
“Rwyf wedi gweithio ag amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwahanol, pob un ohonynt â sefyllfa wahanol ac rwyf wedi llwyddo i ennill sgiliau yr wyf am eu defnyddio yn fy swydd bresennol. Rwyf wastad wedi bod â swyddi sy’n caniatáu i mi gynnig cymorth i’r rhai sydd ei angen ac rwyf yn edrych ymlaen at barhau i wneud hynny gyda’r tîm Cymunedau am Waith.
“Rwyf wedi ymrwymo i’ch helpu chi. Gyda’n gilydd, fe allwn edrych ar gyfleoedd hyfforddi posibl; sgiliau cyfweld a pharatoadau; chwilio am swyddi; a chreu CV newydd neu olygu eich CV presennol.”
Gallwch ffonio neu anfon neges destun at Coran ar 07342 700851 ac fe all drefnu apwyntiad, neu os yw’n well gennych, mae Coran yn cynnig sesiynau galw heibio yng nghaffi Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy bob dydd Mawrth rhwng 1pm a 2pm – dewch draw i’w gyfarfod.
Meddai Dan a Coran:
“Rydym wir yn malio am yr holl unigolion ifanc yr ydym yn eu cefnogi. Rydym yn cynnig pecyn cymorth wedi’i deilwra ar gyfer eu taith i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg. Mae pob unigolyn ifanc yn haeddu cyfle i gyflawni eu potensial llawn a beth sy’n dda am Gymunedau am Waith yw bod gwasanaeth ar gael sydd yn cynnig cymaint o gefnogaeth i’r unigolyn ifanc. Dewch i’n gweld ni – beth sydd gennych chi i’w golli?”
Mae cymorth tebyg ar gael i unigolion dros 25 mlwydd oed. Mae Jeff Wynne a Rob Edwards yma i’ch cefnogi chi. Mae gan y ddau ohonynt brofiad helaeth ac maent eisiau cefnogi pobl yn Sir y Fflint. Meddai Jeff:
“Mae ein tîm yn wych ac rydym yn gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd. Os ydych chi’n 25 mlwydd oed neu’n hyn ac yn chwilio am gymorth i ganfod gwaith – hyd yn oed os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau – dechreuwch gyda ni. Ffoniwch ni ar 01352 704430.”