Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu etifeddiaeth yr economi lleol
Published: 16/01/2020
Ymwelodd cynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones, â derbynnydd y Wobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones 2019.
Mae Steve Morgan yn Rheolwr Gyfarwyddwr Grwp Cwmnïau P&A - busnes teuluol sefydledig sy’n dathlu dros 30 mlynedd, ac mae eu cyfranogiad yn y diwydiant coed yn mynd yn ôl pum cenhedlaeth. Mae ganddo hanes hirsefydlog yn y diwydiant coed, gweithgynhyrchu paledi, pecynnu a phacio cesys ar gyfer ystod eang o ddiwydiannau, yn ogystal â dodrefn pren a ffensys i’r ardd ar gyfer eu gyfanwerthu i ganolfannau gardd yn genedlaethol, o dan yr enw brand Zest 4 Leisure.
Mae’r Wobr Etifeddiaeth – rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint mewn cysylltiad â Systemau Diogelwch AGS – yn cael ei gyflwyno gan yr Arglwydd Barry Jones i rywun a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol o ganlyniad i’w cyfraniad i dwf economaidd yn Sir y Fflint.
Mae Steve yn parhau i dyfu P&A i sefydliad llewyrchus, amlran, sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac yn cynnig ystod o wasanaethau i fusnesau a defnyddwyr. Yn ogystal â chynnal lefelau uchel o foddhad ymysg cwsmeriaid y grwp drwyddi draw, mae Steve hefyd yn gweithredu fel cwmni cyfrifol o ran y gymdeithas ehangach a’r amgylchedd.
Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Jones:
“Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r wobr hon i Steve. Mae’n haeddu derbyn y gydnabyddiaeth hon am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud i gefnogi'r Sir gwych hwn – da iawn yn wir!”
Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:
“Dyma gyfle gwych i ymweld â busnes lleol llewyrchus sydd yn cynnig ystod o wasanaethau, ac yn cymryd yr amser i roi yn ôl i’r gymuned leol a chodi arian i elusennau. Rydym yn ffodus iawn i gael sefydliadau arloesol cystal yn Sir y Fflint, a hoffwn longyfarch Steve Morgan ar y Wobr sy’n llwyr haeddiannol.”
Mae gan P&A bolisi amgylcheddol dim gwastraff gynhwysfawr, ac mae wedi’i ymrwymo i gael cynnyrch coed o goedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol. Mae’r cwmni wedi’i ymrwymo i ailgylchu ac wedi gosod peiriant naddu pren ar gyfer gwastraff coed a phedwar boeler biomas ar y safle yn yr Wyddgrug, yn ogystal â phaneli solar.
Drwy gyfrannu amser ac adnoddau, mae’n rhoi cefnogaeth gyson i nifer o gynlluniau cymunedol ac elusennol gydol y flwyddyn. Mae Steve yn athletwr brwd ac yn cymryd rhan yn Her Ironman, gan gefnogi’r Gymdeithas Alzheimer's ac elusennau lleol, ac wedi cefnogi datblygu mentrau cymdeithasol drwy gynllun mentora.