Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Ailgylchwch dros gyfnod y Nadolig!

Published: 17/12/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion i ailgylchu dros gyfnod y Nadolig. 

Er bod y Nadolig yn gyfnod bendigedig, mae hefyd yn gyfnod gwastraffus. Mae’r cyfanswm o becynnau, papur lapio, jariau, poteli, ffoil a bwyd ychwanegol, yn cynyddu dros gyfnod y Nadolig. 

Beth am gofrestru ar gyfer gwasanaeth newyddion ar e-bost y Cyngor, er mwyn derbyn awgrymiadau defnyddiol dros gyfnod y Nadolig – mae’n hawdd ar SIRYFFLINT drwy ddilyn y cyfarwyddiadau.  Awgrymwn i chi gofrestru ar gyfer eitem newyddion Eich Cyngor hefyd, yn ogystal ag unrhyw destunau sydd o ddiddordeb i chi.

Er mwyn gwirio pryd mae eich casgliadau yn cael eu gwneud, ewch i’ch calendr neu ewch ar-lein ar yma.

Mae rhai eitemau y gellir eu hailgylchu, sy’n hawdd i’w anghofio: 

  • Gallwch olchi cartonau bwyd a diod yn sydyn, a’u gwasgu er mwyn arbed lle yn eich cynwysyddion ailgylchu – rhowch y rhain yn eich sachau plastigion.
  • Ailgylchodd nifer o bobl eu cardiau Nadolig y llynedd. Gall holl gardiau cyfarch heb glitter gael eu hailgylchu. Os yw’n bosibl, rhwygwch y darn â glitter yn ogystal ag unrhyw eitemau nad ydynt yn bapur, megis bathodynnau a batris.
  • Bydd nifer ohonom yn ailgylchu papur lapio ar ôl y Nadolig. Ond, pa fathau a ellir eu hailgylchu? Rhowch gynnig ar y prawf gwasgu: os ydych yn ei wasgu mewn pelen ac os yw’n bownsio’n ôl, ni ellir ei ailgylchu. Cofiwch dynnu tâp gludiog, labeli a rhubanau. 
  • Gall gardbord past dannedd, tiwbiau papur toiled, pecynnau brws dannedd, bocsys ar gyfer hufen y wyneb a phethau ymolchi eraill, eu hailgylchu. 
  • Gall gynwysyddion ffoil glân a ffoil bwyd, megis cynwysyddion mins peis, cesys ceiniogau siocled, ffoil glân, eu hailgylchu. Cofiwch eu cadw’n lân (heb unrhyw fwyd na gweddillion a saim), wedi’u gwasgu mewn pêl a’u rhoi yn eich sach caniau a thuniau. 
  • Gallwch fynd â’ch gwastraff trydanol a’r rhai sy’n cynnwys batris i unrhyw un o’n 5 Canolfan Ailgylchu y Cartref, ar gyfer eu hailgylchu. Peidiwch â rhoi’r eitemau hyn yn eich bin du. 

Peidiwch ag anghofio’r clasuron!

  • Gall gylchgronau, comics, papurau newydd, catalogau gael eu hailgylchu yn y bag glas.
  • Gwasgwch focsys cardbord i arbed lle.
  • Gall erosolau, tuniau a chaniau gwag gael eu hailgylchu yn eich sachau llwyd.
  • Gall boteli, potiau a thybiau plastig gael eu hailgylchu.  
  • Gwastraff bwyd - gallwch gael bagiau gwastraff bwyd newydd o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu neu o’ch Canolfan Ailgylchu y Cartref, neu clymwch fag yn sownd wrth handlen eich cynhwysydd gwastraff bwyd ar eich diwrnod casglu. 
  • Gwastraff bwyd - Bagiau te – gallwch ailgylchu’r rhain yn eich gwastraff bwyd, ynghyd ag unrhyw weddillion ar blatiau a sbarion. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn yma

Cofiwch nad oes rhaid i chi aros am eich casgliad ymyl palmant. Gallwch hefyd fynd a’ch ailgylchu i un o’r pum Canolfan Ailgylchu y Cartref, sydd ar agor bob diwrnod ar wahân i Ddiwrnod y Nadolig. 

I gael rhagor o argymhellion defnyddion, ynghyd ag oriau agor a dyddiadau casglu, ewch i’n gwefan siryfflint.gov.uk/Ailgylchu

 

Recycling Hours Snowman A4 11.12.19.jpg