Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hyfforddiant am ddim i fentrau cymdeithasol yn Sir y Fflint
Published: 17/12/2019
Darparodd Tîm Datblygu Busnes Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth â Picturehouse Films weithdy hyfforddiant am ddim yn ddiweddar ar gyfer mentrau cymdeithasol ar draws Sir y Fflint.
Mae Picturehouse yn gwmni sector preifat gyda dros 30 mlynedd o brofiad o gynhyrchu ffilmiau proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer darlledu, busnes, hysbysebu a marchnata digidol ar y we. Fel rhan o’u strategaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rhannodd Picturehouse gynghorion a thriciau gwych er mwyn gwella ansawdd ac effaith delweddau a chlipiau fideo er mwyn hyrwyddo brand ac/ neu wasanaethau sefydliadol.
Dywedodd Kate Oldfield, cynhyrchydd gyda Picturehouse Films:
“Mae Fideo mor boblogaidd bellach – a dyma y ffordd fwyaf pwerus i gyfathrebu, os ydych yn ei wneud yn iawn. Mae Picturehouse yn dîm o weithwyr ffilm a theledu proffesiynol llwyddiannus. Rydym wedi dysgu llawer dros y blynyddoedd. Ac mae’n bleser gennym rannu ein gwybodaeth. Mae’r sesiynau’n llawn hwyl, cyfeillgar ac yn llawn dop o wybodaeth. Mae’n anodd gwneud yn siwr fod eich neges yn cael ei chlywed dros yr holl swn fideo, gall ychydig o gynghorion wneud gwahaniaeth mawr.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae’n dda gweld busnesau lleol llwyddiannus yn cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gynnal gweithdai llwyddiannus fel hwn. Byddwn yn sicr yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle i wneud unrhyw hyfforddiant yn y dyfodol – mae hefyd yn ffordd wych o rwydweithio gyda mentrau cymdeithasol eraill yn Sir y Fflint.”
Gyda mentrau cymdeithasol o bob cwr o’r sir yn bresennol, roedd yr hyfforddiant ar ffurf cyflwyniadau, enghreifftiau ymarferol a darluniadau wedi’u darperu gan y tîm hynod brofiadol yn Picturehouse Films.
Dywedodd Sarah Way, Cyfarwyddwr yn RainbowBiz CIC:
“Roedd yr hyfforddiant cyfryngau yn arbennig o ddefnyddiol a rhoddodd rhywbeth i ni gnoi cil arno o ran dyfodol RainbowBiz CIC. Rydym eisoes wedi rhoi rhai o’r cynghorion a’r technegau a ddysgom ar waith, ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth dynnu lluniau yn ogystal â chlipiau fideo a ffilm i helpu marchnata RainbowBiz Hippy Shop yn yr Wyddgrug.”
Dywedodd Cat Harvey-Aldcroft, Rheolwr yn Dangerpoint:
“Roeddwn yn meddwl fod y sesiwn yn un gwerth chweil – mae’n wych fod Cyngor Sir y Fflint yn gallu cynnig y cyfle i fentrau cymdeithasol fel ni yn DangerPoint i ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr yn y maes. Rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau â’r bartneriaeth a datblygu’r sgiliau rydym wedi eu dysgu.”
John Cotcher o Picturehouse Films
o’ch chwith i’r dde; Mike Dodd, Swyddog Arweiniol Mentrau Cymdeithasol CSyFf, Sue Oliver a Sarah Way o RainbowBiz CIC, Kate Oldfield, Alice Oldfield a John Cotcher o Picturehouse Films, Francesca Sciarrillo - Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Cat Harvey-Aldcroft Dangerpoint