Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn
Published: 25/11/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi terfyn ar drais yn erbyn merched.
Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy’n ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched.
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
“Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod 25 Tachwedd yn swyddogol fel Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn Erbyn Merched. Mae'r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn ffordd wych arall i ddangos cefnogaeth.”
“Mae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi’r achos ers blynyddoedd, ac wedi derbyn canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am eu gwaith.”
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog – Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi:
“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n llwyr i Ymgyrch y Rhuban Gwyn ac mae’n bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a'n cefnogaeth yn ystod yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn."
Am ragor o fanylion ynghylch yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, gweler y ddolen ganlynol: whiteribboncampaign.co.uk.
Os ydych chi’n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch linell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 10 800.