Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Gwobrau Busnes Sir y Fflint 2019
Published: 21/10/2019
Dathlwyd Gwobrau Busnes Blynyddol Sir y Fflint, am y drydedd flwyddyn ar ddeg, mewn seremoni wobrwyo yn Neuadd Sychdyn yn ddiweddar.
Mae’r Gwobrau, a oedd yn cael eu noddi’n bennaf gan AGS Security Systems am y degfed flwyddyn, yn nodi rhagoriaeth a pherfformiad rhagorol gan fusnes ar draws y sir.
Cafodd enillwyr y deg categori eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du arbennig nos Wener 18 Hydref. Gyda chynulleidfa o dros 200 o bobl fusnes dylanwadol, bu cwmnïau Sir y Fflint yn dathlu eu llwyddiannau.
Gellir gweld crynodeb o'r holl enillwyr isod.
Cyflwynwyd Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry Jones gan yr Rt Hon. Arglwydd Barry Jones i Steve Morgan o Grwp P&A sydd wedi’i leoli yn yr Wyddgrug am ei wasanaethau rhagorol o fusnes a’r economi leol.
Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Rt Hon Barry Jones:
“Rydw i'n falch iawn o gyflwyno'r wobr hon i Mr. Steve Morgan sy’n haeddu derbyn y gydnabyddiaeth hon am y gwaith rhagorol y mae’n ei wneud i gefnogi'r Sir gwych hwn – da iawn yn wir!”
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Hoffwn longyfarch holl enillwyr eleni. Mae’r gystadleuaeth hon, fel bob blwyddyn wedi bod yn ffyrnig – Dydw i ddim yn genfigennus o’r beirniaid am orfod gwneud penderfyniad! Mae’n braf gweld y Gwobrau yn mynd o nerth i nerth wrth i ni ddathlu llwyddiannau’r busnes ar draws y sir”.
“Hoffwn hefyd ddiolch i'n prif noddwyr, AGS Security Systems a’n holl noddwyr eraill, sydd wedi gwneud y digwyddiad gwych hwn yn bosibl unwaith eto. Mae’n galonogol gweld bod busnesau Sir y Fflint yn gweld gwerth i‘r gwobrau hyn, ac eisiau cefnogi ei gilydd.”
Llongyfarchodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan ddweud:
"Rydym yn falch o fod yn brif noddwr i Wobrau Busnes Sir y Fflint 2019. Rydym wedi bod yn rhan o’r Gwobrau am ddeng mlynedd yn olynol ac mae'r gwobrau yn cydnabod talent, arloesedd ac uchelgais gwych o fewn y sir.
"Yn AGS, fe welwn ni'r straeon llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn yn y gwobrau. Dyna pam yr ydym wrth ein bodd o fod yn rhan o Wobrau Busnes Sir y Fflint unwaith eto ac i helpu i ddathlu llwyddiannau'r nifer o sefydliadau. Mae ein cwmni yn gwybod mwy na'r mwyafrif am yr hyn y mae ennill un o'r gwobrau hyn yn ei olygu i ymgeiswyr”.
Mae enillwyr a noddwyr y categorïau wedi eu rhestru isod:
Award |
Sponsor |
Winner |
|
|
|
Prentisiaeth |
Cambria for Business |
Georgia Jones, Grwp Wates |
Gwobr Person Busnes y Flwyddyn |
Edge Transport |
Steve Evans - Parry & Evans Cyf |
Gwobr Busnes Gorau gyda dros 10 o weithwyr |
KK Fine Foods PLC |
Click Convert |
Gwobr Busnes Gorau gyda llai na 10 o weithwyr |
Pro Networks |
Cariad Gin - Distyllfa Cyfyngeidg Bryniau Clwyd |
Gwobr Busnes gorau i weithio iddo |
P & A Group |
Parry & Evans Cyf |
Gwobr y Fenter Gymdeithasol Orau |
Galliford Try |
Danger Point |
Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol Gwely a Brecwast |
Wates Construction |
Gwely a Brecwast Hope Mountain |
Gwobr Arloesedd, Technoleg a Menter |
Kingspan Insulated Panels |
Remsdaq Cyf |
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate Catherall ar 01352 703221 neu ewch i www.siryfflintgwobraubusnes.com.