Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol Uwchradd Cei Connah
Published: 08/10/2019
Croesawodd Ysgol Uwchradd Cei Connah ymwelwyr yn ddiweddar i weld cynnydd y rhaglen ailwampio fawr sy’n digwydd yn yr ysgol.
Cwblhawyd rhan gyntaf y gwaith gwella ar ddiwedd y llynedd ac mae wedi trawsnewid nifer o ardaloedd dysgu yn yr ysgol.
Mae disgwyl i ail ran y gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Tachwedd 2019 ac mae’n cynnwys gwella’r gorchudd allanol, newid to’r Neuadd Chwaraeon, dymchwel y bloc gweinyddol presennol ac ailwampio ystafelloedd i ddarparu ardal weinyddol a phrif fynedfa newydd.
Cafodd uwch swyddogion o’r Cyngor a chynrychiolwyr y contractwyr, Kier, eu croesawu gan y Dirprwy Bennaeth Mr John Colclough a Chadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, a’u tywys o amgylch yr adeilad.
Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard:
“Mae'r gwaith moderneiddio, a oedd wir ei angen yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, wedi’i wneud i safon uchel a bydd yr ysgol rwan yn mwynhau cyfleusterau modern o’r radd flaenaf a’r cyfleoedd dysgu gorau posib. Roedd yn braf gweld y disgyblion yn ymgysylltu mor gadarnhaol â'u hamgylchedd dysgu newydd. Mae’r Cyngor yn parhau'n ymrwymedig i fuddsoddi yn nyfodol ein plant a phobl ifanc.
Dywedodd Peter Commins, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Kier Regional Building North West:
“Roedd yn bleser cael croesawu ymwelwyr i safle Ysgol Uwchradd Cei Connah. Rydym yn tynnu tua terfyn ein rhaglen adeiladu i ddarparu cyfleusterau modern y gall myfyrwyr yr ysgol eu mwynhau ac elwa ohonynt am flynyddoedd i ddod. Trwy gydol y prosiect mae cwmni Kier wedi cydweithio’n frwd â’r gymuned leol trwy fforymau amrywiol. Dros ddau gyfnod y prosiect rydym wedi cynnal 30 o ddigwyddiadau, gan ymgysylltu â mwy na 2,300 o ddisgyblion a chreu 19 o gyfleoedd gwaith. Mae etifeddiaeth gwerth cymdeithasol y prosiect yn £10.5m ar hyn o bryd, rhywbeth yr ydym yn hynod falch ohono.”