Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwyddiannau siopau dros dro yn parhau
Published: 04/09/2019
Mae dau fusnes, sydd eisoes yn enwau rheolaidd yn siop dros dro Bwcle, yn ehangu eu gorwelion ac yn mentro eu hunain.
Mae Annemarie Sharp o Cowboys and Angels Children’s Boutique a Sharon Beck o Shaz’s Shabby CHIC wedi penderfynu agor eu siop eu hunain gyda’i gilydd yn dilyn y llwyddiant a gawsant trwy’r Siop Dros Dro.
Enw’r siop fydd Shazam PopUp Shop ac mae’r agoriad swyddogol ddydd Sadwrn yma, 7 Medi o 10am tan 5pm, gyda digon ar gael gan gynnwys paentio wynebau ar gyfer y plant a gwydraid o swigod i’r oedolion.
Syniad gwreiddiol Martin Evans yw’r siop dros dro, rheolwr gyfarwyddwr Rhwydwaith Busnesau Bach Sir y Fflint (FSBN), rhan o Rwydwaith Busnes y DU sy’n cefnogi a hyrwyddo busnesau bach trwy eu helpu i dyfu ac ymestyn eu cyrhaeddiad yn lleol ac yn genedlaethol trwy rwydweithio digidol a strategaethau marchnata cymdeithasol, lleol a symudol.
Dywedodd Martin:
“Mae hyn yn newyddion gwych i'r busnesau ac yn newyddion gwych i drigolion Bwcle. Mae hyn yn golygu un siop wag llai ym Mwcle a bydd y gymuned yn cael siop y byddant yn ei defnyddio gan fod perchnogion y busnes eisoes wedi profi'r farchnad trwy ein siop dros dro wreiddiol.
“Y ffordd y mae ein siop yn gweithio yw y gall busnesau bach rentu lle am y dydd neu nifer o ddyddiau. Gellir defnyddio'r lle ar gyfer pob math o bethau - arddangosiadau coginio, arddangosiadau trefnu blodau a diwrnodau gemau bwrdd! Mae hyn yn dangos pa mor amlbwrpas y gall y gofod fod!”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae'r siop dros dro arloesol hon yn profi i fod yn ffordd wych o ddod â busnesau bach yn ôl i'r stryd fawr. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi'r fenter hon yn llawn ac rwy'n falch o glywed bod y ddau berchennog busnes hyn bellach yn mentro ar eu liwt eu hunain. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”
I gael mwy o wybodaeth am y siop dros dro, cysylltwch â Martin yn FSBN ar 07481 195453 neu e-bostiwch flintshiresbn@gmail.com.