Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Grant Diogelwch ar y Ffyrdd – Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a’r Stryd Fawr, Cei Connah
Published: 13/08/2019
Yn dilyn dyfarniad llwyddiannus o gyllid Llywodraeth Cymru o dan y fenter Grant Diogelwch ar y Ffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod gwaith i weithredu pecyn o welliannau diogelwch ar y ffyrdd ar Ffordd yr Wyddgrug, Ffordd Llanarth a'r Stryd Fawr, Cei Connah wedi’i gwblhau.
Mae hyn yn cynnwys:
- Arwyddion Rhybudd Ysgol rhyngweithiol;
- adeiladu troedffordd ar hyd Clivedon Road i gysylltu â Hollowbrook Drive;
- gosod Croesfan Sebra ar Ffordd yr Wyddgrug;
- gwella arwyddion ffyrdd a gwaith marcio ar y ffordd fawr ac ail-wynebu’r ffordd fawr mewn cyffyrdd allweddol.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas;
“Rwy’n falch iawn, ynghyd â’r holl gynghorwyr lleol yn yr ardal, bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau yn llwyddiannus. Bydd y gwelliannau diogelwch hyn yn sicrhau bod y plant yn ddiogel ar eu ffordd i'r ysgol ac adref o'r ysgol. Mae’r cynllun hefyd yn gwella hyfywedd a dulliau egnïol o deithio er lles y gymuned leol.”