Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Ail Ryfel Byd Talacre
Published: 01/08/2019
Roedd ysbryd yr Ail Ryfel Byd yn amlwg iawn yn Nhalacre yn ddiweddar. Er gwaethaf y glaw, roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr.
Daeth bobl leol ac ymwelwyr yno’n llu gyda dros 650 yn ymweld ag arddangosfeydd y Ganolfan Gymunedol ac eraill yn mynd i edrych ar yr arddangosiadau allanol.
Tu mewn, swynwyd yr ymwelwyr gan ffilm CGI o’r awyrennau Spitfire a’r profiad rhithwir o fod wrth y llyw mewn awyren yn cymryd rhan mewn ymgyrch fomio dros Berlin. Manteisiodd nifer ar y cyfle i gyffwrdd arteffactau’r ffrynt cartref fel mygydau nwy a ratl rhybudd ARP ac roedd y plant yn mwynhau gwisgo dillad o’r cyfnod. Rhoddodd pobl ifanc a hen gynnig ar greu carthenni cadachau gyda nifer o’r merched hyn yn dangos y technegau roeddent wedi eu dysgu fel pobl ifanc. Ychwanegodd Professor Llusern a’i deulu at yr awyrgylch gyda chaneuon o gyfnod y rhyfel, ac ymunodd Miriam, ail-grëwr ENSA, ag o’n ddiweddarach gyda’i acordion.
Roedd awyren Spitfire yn cael lle blaenllaw tu allan ac roedd ymwelwyr yn mwynhau clywed swn pwerus injan y Merlin Meteor a oedd yn cael ei danio’n rheolaidd.
Roedd nifer dda o bobl yn ddigon dewr i fentro'r elfennau i ymweld â gwaith cloddio archeolegol sy'n digwydd o amgylch safle rhai o'r cabanau. Arddangoswyd yr arteffactau niferus a ddarganfuwyd, gan gynnwys darnau o lestri a chasys bwledi gwag, yn y Ganolfan Gymunedol ddydd Sul.
Difethwyd yr hwyl beth cyntaf fore Sul ryw gymaint gan y glaw trwm dros nos, ac roedd rhai o’r ail-grewyr a’u harddangosiadau yn rhy wlyb i barhau tu allan. Fodd bynnag, Pwyllwch a Daliwch Ati oedd y moto wrth i’r arddangosiadau gael eu had-drefnu yn y Ganolfan Gymunedol i greu lle ar gyfer ail-grewyr ac fe’n gwobrwywyd gan lif cyson o ymwelwyr drwy gydol y dydd, ac roedd pob un ohonynt yn frwd iawn.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:
“Diolch arbennig i gadetiaid yr awyrlu, a wirfoddolodd drwy gydol y penwythnos i helpu gweithrediad esmwyth y digwyddiad. Diolch i’r gwirfoddolwyr lleol a’r tîm o Ganolfan Gymunedol Talacre, sydd wedi bod mor gefnogol drwy gydol y prosiect. Hoffwn hefyd gydnabod y busnesau lleol sydd wedi cefnogi’r prosiect, gan ddarparu lluniaeth i wirfoddolwyr, cynnal digwyddiadau neu ariannu cyhoeddusrwydd ac i ENI UK Bae Lerpwl, sydd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy.”
Aeth Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas, i ysbryd y dydd, gan gael ei llun wedi ei gymryd wrth y Spitfire yn gwisgo siaced hedfan yr Awyrlu! Dywedodd:
“Roedd yn wych i wylio'r lluniau ffilm anhygoel a sgwrsio â’r ail-grewyr a phawb oedd yn cymryd rhan yn yr arddangosiadau gan fod pob un ohonynt mor wybodus.”
Roedd Mrs Gouldsmith o Leek, Swydd Stafford, yn aros mewn carafán gerllaw, a daeth ei theulu gyda hi. Dywedodd:
“Mae wedi bod yn ddiddorol iawn. Arhosom ni bron iawn drwy’r dydd ac aethom i weld popeth! Roedd rhywbeth at ddant pawb. Roedd fy wyres 5 oed wrth ei bodd yn gwisgo i fyny a chreu carthenni o gadachau a’r atyniad rhith-wir oedd ffefryn ein plentyn yn ei arddegau.”
Roedd Dorothy Norman, 82 oed, sy’n cofio’r rhyfel ei hun, wrth ei bodd gyda’r digwyddiad, gan ddweud:
“Roeddwn wrth fy modd i sefyll wrth ymyl Spitfire ac mi wnes i fwynhau darllen yr holl arddangosiadau yn y ganolfan!
Roedd Lynne Topple gyda’i thad, Peter Cocker, a ddaeth i Dwyni Talacre fel faciwî yn dianc rhag Blits mis Mai yn Lerpwl.
“Roedd mor arbennig i glywed fy nhad yn rhannu ei hanesion o gyfnod y rhyfel.”
Y digwyddiad hwn oedd penllanw prosiect ‘Talacre Ddoe a Heddiw’, a arweiniwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru a Chadwyn Clwyd.
Y Cynghorydd Marion Bateman, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint gyda David Hanson AS yng nghaban y faciwî
|
Y Comodor Awyr Adrian Williams gydag Awyr-ringyll o gadetiaid Awyr Prestatyn a Macsen a Cadi Baglin
|
Y Cynghorydd Carolyn Thomas yn mynd i ysbryd yr Awyrlu
|
Ava Dixon, Dee Dixon a Tom Dixon, Kim Norman a Dorothy Norman
|
Liz Gouldsmith a’i hwyres Nancy Clowes yn rhoi cynnig ar greu carthenni cadachau
|
|