Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gostyngiad yn nhreth y cyngor i ofalwyr maeth
Published: 10/07/2019
Y mis hwn, bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gymeradwyo mewn egwyddor, cyflwyno Cynllun Dewisol Gostyngiadau Treth y Cyngor i Ofalwyr Maeth, a ddaw i rym o fis Ebrill 2020.
Gofynnir iddynt ystyried tri opsiwn am y lefel o ostyngiad a fyddai’n fforddiadwy i’r Cyngor, sef gostyngiad o 25%, 50% neu 75%, gan nodi mai gostyngiad o 50% fyddai’r dewis a ffefrir er mwyn alinio â chynlluniau gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer gofalwyr maeth sydd yn weithredol mewn awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth.
Mae gofalwyr maeth yn hanfodol i gefnogi anghenion pobl ifanc mewn gofal. Mae gofalwyr maeth yn darparu gofal amgen sy'n seiliedig ar deuluoedd mewn amgylchedd cynnes, diogel, gofalgar a meithringar. Yn aml mae plant sydd yn derbyn gofal yn eithriadol o fregus ac mae rôl gofalwyr maeth yn hanfodol i’w hamddiffyn.
O dro o dro, mae’n rhaid i’r Cyngor leoli plant gyda gofalwyr maeth sector preifat, yn aml yn bellach i ffwrdd, sydd yn golygu fod y Cyngor yn talu’r pris uchaf.
Trwy geisio cael cymeradwyaeth am gynllun gostyngiad treth y cyngor newydd ar gyfer gofalwyr maeth yr awdurdod lleol, fe allai helpu i gadw a chynyddu nifer y gofalwyr maeth yn Sir y Fflint, a chreu arbedion i’r Cyngor trwy beidio â gorfod lleoli plant y tu allan i’r sir.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
“Mae angen cefnogaeth i annog pobl mewn i ofal maeth awdurdod lleol ac mae hon yn fenter dda iawn. Mae’r manteision i’r teulu yn amlwg, ond mae yna fanteision i’r Cyngor hefyd. Gallai’r gost o gynnig gostyngiad 50% i ofalwyr maeth yn Sir y Fflint (£92,000) gael ei adennill petai dim ond tri o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol am gyfnod o 12 mis yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.
“Trwy wneud hyn, byddai’r cyngor yn arwain y ffordd trwy gydnabod y gwaith cyhoeddus allweddol y mae gofalwyr maeth yn ei wneud mewn partneriaeth gyda ni i amddiffyn plant bregus”.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
“Dyma enghraifft arall o ba mor arloesol ydi Cyngor Sir y Fflint – cyflwyno gostyngiad dewisol pan nad oes yna esemptiad na chynllun gostyngiad penodol ar gyfer gofalwyr maeth yn neddfwriaeth Treth y Cyngor. Trwy gyflwyno’r cynllun yma ym mis Ebrill 2020, byddai’r Cyngor yn ymuno â dim ond dau awdurdod lleol arall yng Nghymru i gynnig cynllun o’r fath.”