Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn cefnogi Cyflogadwyedd
Published: 02/07/2019
Cymerodd Cyngor Sir y Fflint ran yn y pedwerydd Diwrnod Cyflogadwyedd blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 28 Mehefin.
Dyma ddathliad mwyaf y DU ar gyfer sefydliadau sy’n helpu pobl leol i gael gwaith.
Aeth Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy, sef y tîm sy’n rhedeg rhaglen Gyflogadwyedd Cyngor Sir y Fflint, ar y ffordd er mwyn cyrraedd pobl Sir y Fflint. Gan gychwyn yn swyddfeydd Ty Dewi Sant yn Ewlo, dathlodd y tîm lwyddiant a chynnydd unigolion oedd naill ai ar y daith neu oedd wedi llwyddo i gael gwaith ar ôl cael cymorth gan y rhaglen.
Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:
“Mae gan Sir y Fflint hanes blaenorol cadarn o helpu pobl leol i gael gwaith. Mae’r tîm wedi gwneud gwaith gwych o un flwyddyn i'r llall, ac mae ganddynt frwdfrydedd ac ymroddiad heb ei ail. Maen nhw’n cynnal cyrsiau hyfforddi, ffeiriau swyddi a chlybiau menter, yn ogystal â chynnig sesiynau mentora un i un. Mae angen i ni fuddsoddi mewn pobl leol er mwyn eu galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd am waith yn yr ardal. Rwy’n falch iawn fod hyn yn cael ei ddathlu heddiw a boed iddo barhau ymhell i'r dyfodol."
Yn bresennol roedd:
David Wilbraham a gafodd gymorth gan y rhaglen i ennill prentisiaeth yn Theatr Clwyd, lle mae’n dal i weithio 2 flynedd yn ddiweddarach.
Harry Shone, sydd wedi bod yn gweithio gyda mentor ieuenctid Cymunedau am Waith, Daniel Wade, i ennill ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch, gan sicrhau swydd o fewn y diwydiant Diogelwch.
Gavin Eastham, sylfaenydd Cobra Life Martial Arts Academy, aelod llwyddiannus o’r Clwb Menter Fusnes sydd wedi elwa ar gymorth parhaus y tîm Cymunedau am Waith.
Aeth y sioe deithiol ymlaen i amrywiol leoliadau ledled Sir y Fflint, gan gynnwys ASDA Queensferry, Parc Brychdyn a Tesco yn Yr Wyddgrug. Roedd swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar ddod o hyd i waith ac i gofrestru pobl ar y diwrnod.
Mae gan Cymunedau am Waith a Chymunedau am Waith a Mwy dîm ymroddedig sydd ar gael ledled Sir y Fflint i ddarparu sesiynau mentora un i un ac i gynnig cymorth i’ch helpu chi i ganfod gwaith, addysg neu hyfforddiant. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, ffoniwch 01352 704430 neu galwch draw i’n swyddfeydd ni yng Nghanolfan “The Place for You”, Rowley’s Drive, Shotton.