Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif eto?
Published: 29/05/2019
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno cyfrif i breswylwyr a chwsmeriaid i'w galluogi i gael mynediad i nifer o wasanaethau ar-lein.
Os hoffech weld pryd fydd eich bin yn cael ei gasglu neu gael y manylion cyswllt ar gyfer eich cynghorydd lleol ar-lein, yna Fy Nghyfrif, y cyfrif newydd gan y Cyngor, yw’r union beth yr ydych ei angen a gallwch wneud popeth ar adeg ac mewn lle sydd fwyaf addas i chi.
Mae’n gyflym ac mae’n hawdd cofrestru. Ewch i siryfflint.gov.uk/Fy-Nghyfrif a chofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif nawr!
Dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod bydd y Cyngor yn ehangu'r gwasanaethau sydd ar gael i breswylwyr Sir y Fflint drwy Fy Nghyfrif a bydd yn rhoi gwybod i chi pan ddaw pethau newydd arlein.
Os ydych yn denant ty cyngor byddwch yn gallu:
- gweld eich balans rhent a gwneud taliadau arlein
- gweld ac olrhain cynnydd ceisiadau am atgyweiriadau
- gweld eich ceisiadau presennol
- gweld y wybodaeth am eich cyfrif, fel dyddiadau trin y system nwy a manylion cyswllt
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:
“Fy nghyfrif fydd eich rhan bersonol chi o’n gwefan a gallwch olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wneir arlein. Byddwch yn gallu cael mynediad i wasanaethau'r cyngor 24 awr y dydd, o foethusrwydd eich cartref eich hun neu wrth fynd o le i le gyda'ch dyfais symudol.
“Drwy greu cyfrif arlein bydd yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn bwydo i system ganolog sy'n ein galluogi ni i brosesu eich cais yn llawer cynt. Bydd hyn yn eich galluogi i weld sut rydym yn ymdrin â’ch cais.
“Peidiwch â phoeni os nad ydych eisiau cael mynediad i wasanaethau’r cyngor yn y ffordd yma, gallwch barhau i wneud pethau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn un o Ganolfannau Cysylltu'r Cyngor.
“Os hoffech roi cynnig arni ond yr hoffech gymorth er mwyn dechrau ewch i un o Ganolfannau Cysylltu’r Cyngor ac fe fyddant yn gallu eich helpu i gychwyn pethau.”