Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Trefniadaeth Ysgolion: Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm
Published: 14/05/2019
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd cynaliadwy o gadw’r ysgol yn y gymuned leol ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a’r Cyngor Sir.
Ffrwyth eu llafur yw cytundeb rhwng llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm a llywodraethwyr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Esgob yng Nghaerwys i geisio ffurfio ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol. Fodd bynnag, nid yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn caniatáu i ysgolion ffydd na rhai sy’n seiliedig ar ymddiriedolaeth, gan gynnwys ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a rhai gwirfoddol a reolir, i ffedereiddio ag ysgolion cymunedol.
Pe byddai Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn newid yn un Wirfoddol a Gynorthwyir yn unol â’r bwriad, byddai’r ysgol yn gymwys i gael ei hystyried ar gyfer derbyn cyllid drwy Raglen Gyfalaf yr Awdurdod Esgobaethol ar gyfer Trwsio a Chynnal a Chadw. Hefyd, mae rhai grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru nad ydynt ond ar gael i ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir.
Er mwyn medru ymchwilio ymhellach i’r dewis o ffedereiddio, bydd angen i’r Cyngor a’i bartneriaid ymgynghori ynghylch y bwriad i newid Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn ysgol gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir, yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2018.
Meddai’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid,
“Fel rhan o’r drefn ymgynghori wrth newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm, mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn “gynigydd” at ddibenion ymgynghori ffurfiol, a byddai’n ofynnol i’r Cabinet benderfynu a ddylid gweithredu’r cynnig ai peidio.
“Mae llywodraethwyr Ysgol Licswm wedi ymchwilio i’r dewisiadau ar gyfer cadw’r ysgol yn y gymuned ar y cyd ag ysgolion eraill, yr Awdurdod Esgobaethol a swyddogion y Cyngor. O ganlyniad i hynny mae llywodraethwyr Ysgol yr Esgob ac Ysgol Licswm wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ffurfiol â’u cymunedau ynghylch y bwriad i sefydlu cytundeb Ffedereiddio rhwng y ddwy ysgol. O ran unrhyw gynigion i ffedereiddio a ddaw yn sgil hynny, y Cyrff Llywodraethu eu hunain a fyddai’n eu hystyried ac yn penderfynu yn eu cylch.”
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor i ymgynghori’n ffurfiol ynghylch newid dynodiad Ysgol Gynradd Gymunedol Licswm yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mai.