Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cael Hwyl a Chodi Arian
Published: 18/02/2019
Mae Tîm Datblygiad Economaidd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi menter gymdeithasol leol i helpu pobl leol awtistig.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cabinz, menter gymdeithasol sy’n ymwneud yn bennaf ag ailddefnyddio eitemau, wedi sortio drwy dros 10 tunnell o sgriwiau, bolltau, nytiau a hoelion newydd sbon o safon uchel a gafwyd gan wneuthurwyr. Roedd y darnau’n dod o focsys wedi torri, stoc ormodol neu archebion wedi’u canslo. Cafodd yr eitemau eu gwerthu am bris isel neu eu rhoi i grwpiau DIY, Men’s Sheds a busnesau bach.
Mae Sir y Flint wedi bod yn cefnogi'r sefydliad i ddynodi a mabwysiadu ei strwythur cyfreithiol, cael ei gofrestru fel cwmni a pharatoi ar gyfer buddsoddiad.
Mae Cabinz, ar y cyd a Woodwork to Wellness, canolfan datblygu sgiliau a chreu crefftau yn Saltney, wedi cwblhau peilot sortio sgriwiau a bolltau llwyddiannus, gyda chynlluniau i ehangu'r prosiect fel gwaith therapi ar gyfer yr elusen Autism Together.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
“Mae’n wych gallu dathlu hyn a'r holl waith menter cadarnhaol arall sy’n digwydd yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn deall pwysigrwydd mentrau cymdeithasol yn yr economi lleol ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn drwy ein Swyddog Menter Cymdeithasol Arweiniol.
Meddai Paul Ridley, sefydlydd Cabinz:
“Yr haf diwethaf cefais y syniad fod sortio sgriwiau ac ati’n rhywbeth sy'n gwneud i rywun ymlacio ac o bosibl yn therapi da. Cefais fy nghyfeirio at Graham Stephens, cydlynydd Woodword to Wellness yn Saltney a chwblhawyd peilot llwyddiannus gyda’i aelodau awtistig.
“Mae’r peilot hwn yn awr yn cael ei ehangu i gynnwys Autism Together, elusen fawr yng Nghilgwri, fel partneriaid a bydd aelodau’r elusen yn sortio’r darnau, yn eu rhoi mewn bagiau ac yn eu cynnig ar werth am gost isel drwy siop ar-lein. Bydd y darnau hefyd yn cael eu defnyddio gan Autism Together a Woodwork to Wellness i wneud dodrefn gardd ac eitemau pren eraill.
“Mae’r cyngor a’r gefnogaeth y mae Cyngor Sir y Fflint yn eu cynnig wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ac wedi ein helpu ni i ddatblygu’r prosiect hwn.”
Bydd yr arian a godwyd drwy’r prosiect yn cael ei rannu rhwng y tri grwp. Mae gan Cabinz amrywiaeth eang o’r rhan fwyaf o fathau o sgriwiau, bolltau ayyb ac maent yn gobeithio bod yn gwbl weithredol ar gyfer archebion post erbyn y gwanwyn 2019. I gael rhagor o wybodaeth am Autism Together, ewch i autismtogether.co.uk.