Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Tywydd y gaeaf
Published: 01/02/2019
Mae’n ymddangos fod y tywydd gaeafol diweddar wedi cilio am weddill yr wythnos er bod y rhagolygon yn nodi y bydd yn parhau’n oer tu hwnt i’r penwythnos.
Mae timau Cynnal a Chadw’r Gaeaf Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio’n ddi-dor am y 72 awr ddiwethaf i sicrhau fod ffyrdd blaenoriaeth yn y Sir wedi cael eu graeanu. Hyd yma, rydym wedi defnyddio bron i 1000 o dunelli o raean ar ein ffyrdd, a bydd gweithrediadau’n parhau am gyhyd â sydd angen. Rydym wedi parhau i gefnogi casgliadau gwastraff ac ailgylchu a gweithrediadau cludiant ysgol a chyhoeddus drwy gydol y tywydd garw. Rydym bellach wedi gallu cyfeirio adnoddau at lwybrau eilaidd ac wedi ymateb i sawl cais am wasanaethau ar draws y Sir, a bydd gwaith yn parhau i mewn i fory mewn ardaloedd lle mae angen am gefnogaeth a chymorth wedi ei nodi.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant;
“Hoffwn ddiolch i’r tîm Strydwedd cyfan sydd wedi gweithio ddydd a nos yr wythnos hon. Mae’r rhain yn amodau heriol iawn. Mae timau wedi bod ym mhob ysgol a chanol pob tref i sicrhau fod mynediad yn cael ei gynnal. Mae ein Loriau Graeanu wedi bod yn gweithio’n ddi-baid i gadw ein ffyrdd blaenoriaeth yn ddiogel ac agored i gerbydau.”