Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu ffioedd maes parcio
Published: 21/01/2019
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi nodi'r adolygiad chwe mis o ffioedd maes parcio a hefyd wedi cytuno ar newidiadau i'r trefniadau ffioedd.
Cafodd y ffioedd newydd eu cyflwyno ym mis Mai 2018 i helpu’r Cyngor i ariannu cost darparu cyfleusterau maes parcio a gwasanaethau gorfodi a sicrhau bod yr incwm o feysydd parcio yn cyfateb cost darparu’r gwasanaeth.
Roedd Cabinet Sir y Fflint wedi gofyn am adolygiad o’r ffioedd parcio newydd ar ôl chwe mis ac mae hyn bellach wedi’i gwblhau ac mae nifer o newidiadau wedi eu hargymell i’r trefniadau ffioedd.
Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae’r holl awgrymiadau a newidiadau wedi eu hystyried yn erbyn strategaeth meysydd parcio’r Cyngor a gymeradwywyd i reoli’r meysydd parcio a sicrhau bod gofodau parcio ar gael i siopwyr ac ymwelwyr â chanol ein trefi. Cafodd y ffioedd isel eu cyflwyno i helpu tuag at adfer cost cynnal a chadw a rhedeg y meysydd parcio.”
Mae’r newidiadau a ffefrir i’r strategaeth maes parcio isod. Mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw newidiadau a awgrymwyd yn cael eu gwerthuso yn erbyn y strategaeth bresennol.
- Cyflwyno ffioedd talu ac arddangos ar drydedd haen y maes parcio yn Neuadd y Sir yn y mannau agosaf at Neuadd Llwynegrin, gyda gweddill y mannau ar yr haenau yn cael eu cadw i ddeilwyr trwydded yn unig.
- Cyflwyno band tariff 4 awr ychwanegol yn Neuadd Llwynegrin, bydd y cynnydd mewn amser yn fwy cyfleus i bobl sy’n ymweld ac yn mynd i briodasau yn Neuadd Llwynegrin.
- Bydd treial ar gyfer talu gyda sglodyn ac yn ddigyswllt mewn tri lleoliad ar gyfer dull cyflym a chyfleus i dalu’r tariff priodol. Os bydd y treial yn profi’n llwyddiannus, bydd y trefniant yn cael ei ymestyn i feysydd parcio eraill ar draws y Sir ac ar gyfer pob peiriant newydd a osodir yn y dyfodol.
- Bwriedir treialu cyfleuster ‘talu dros y ffôn’ ar un o’r peiriannau talu ac arddangos yn y Sir. Dewis hyfyw fyddai’r peiriant yng Ngorsaf Reilfforddd y Fflint, oherwydd natur y cwsmeriaid yn defnyddio’r maes parcio. Os yn llwyddiannus, byddai’r dull hwn o dalu yn cael ei gyflwyno mewn lleoliadau addas eraill ar draws y Sir.
- Adolygu cynyddu parcio ar y stryd yng nghanol trefi er mwyn darparu meysydd parcio arhosiad byr am ddim ar gyfer ymweliadau sydyn i ganol y dref os yn bosibl, yn ganiataol o fewn y strategaeth hon. Mae’r Cyngor yn treialu tynnu’r parth cerddwyr yng Nghanol Tref Treffynnon ar hyn o bryd, i ddarparu parcio ar y stryd am ddim ac annog siopwyr i’r dref.
- Mae’r tariff £1 yn Yr Wyddgrug wedi cynyddu i 3 awr o 2 awr mewn meysydd parcio arhosiad byr a hir. Roedd y cynnig o fewn y strategaeth a chyfyngiadau ac nid oedd yn effeithio ar lefelau incwm a gellir ei gefnogi. Ar sail hyn, cafodd y trefniadau diwygiedig eu cyflwyno ym mis Medi
- Adolygiad o’r cyfluniad parcio i gynyddu’r gofodau parcio ar gael ym maes parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, i gefnogi'r cynnydd mewn ymwelwyr i ganol y dref.
- Mae cais i gefnogi ffioedd maes parcio am ddim yn ystod gwyliau yng nghanol y dref mewn un maes parcio, am hyd at ddeuddydd y flwyddyn, ym mhob tref yn y Sir yn gallu cael ei dderbyn. Bydd hyn yn seiliedig ar gais ffurfiol ac achos busnes yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor Tref ac ar sail bod ymwelwyr ychwanegol yn defnyddio’r meysydd parcio lle codir tâl eraill yn y dref, fydd yn mantoli’r lefelau incwm cyffredinol.
- Byddai cynnig parcio am ddim ar gyfer mis Rhagfyr yn y dref yn cael ei ystyried o fewn y strategaeth ac yn cael ei ystyried fel un digwyddiad ar gyfer y dref (os cymeradwyir) fodd bynnag, oherwydd y cyfnod estynedig, byddai cost darparu’r trefniant hwn yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor Tref.