Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer Achosion Tipio Anghyfreithlon
Published: 17/01/2019
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo'r defnydd o'r ddeddfwriaeth newydd i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPN) ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon lefel isel.
Cost y FPN yw £ 200, gyda gostyngiad o £ 80 ar gyfer talu'n gynnar, yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae'r Cyngor yn derbyn ac yn ymchwilio tua 1,000 o adroddiadau tipio anghyfreithlon bob blwyddyn. Mae deddfwriaeth newydd nawr yn rhoi’r grym i awdurdodau lleol ddelio gyda’r digwyddiadau hyn gan ddefnyddio Hysbysiad Cosb Benodedig, fydd yn arbed amser ac arian heb angen casglu tystiolaeth a pharatoi papurau llys. Mae hefyd yn caniatáu i droseddwyr gael cyfle i osgoi erlyniad.”
Bydd y cyfnod safonol cydnabyddedig o 14 diwrnod ar gyfer taliad yn berthnasol ac awgrymir bod cost gostyngol o £120 yn cael ei gynnig, os telir yr Hysbysiad Cosb Benodedig o fewn 10 diwrnod. Os bydd y troseddwr yn methu gwneud taliad o fewn y cyfnod rhagnodedig, bydd gweithdrefnau llys yn cael eu cyflwyno.