Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn lansio cynllun uchelgeisiol ar gyfer Parc Arfordir Sir y Fflint

Published: 15/04/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynllun rheoli 5 mlynedd uchelgeisiol ar gyfer datblygiad parhaus Parc Arfordir Sir y Fflint.

Yn boblogaidd gyda cherddwyr, beicwyr a gwylwyr adar, mae Parc Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir ar hyd glannau Aber Afon Dyfrdwy – o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr a Môr Iwerddon.

Mae'r cynllun newydd, a gymeradwywyd gan y Cabinet heddiw, yn nodi meysydd targed ar gyfer gwella ac yn amlinellu sut i roi gwell ymdeimlad o le a chyrraedd i drigolion ac ymwelwyr.

Mae hefyd yn manylu ar ddull graddol o godi proffil y blaendraeth, gwella twristiaeth a galluogi cymunedau a busnesau i weithio’n gynaliadwy ac yn arloesol i helpu i gyflawni ffyniant amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, yn ogystal â chynigion safle-benodol ar gyfer wyth ‘canolbwynt’ ar hyd y llwybr.

Mae’r canolfannau’n cychwyn yn Saltney ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac yna Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, Blaendraeth y Fflint, Blaendraeth Bagillt, Maes Glas a Llannerch-y-Môr a Mostyn.  Y canolbwynt olaf yw lle mae'r afon yn cwrdd â'r môr ar draeth llydan o dywod braf yn Nhalacre a Gronant, gyda’i oleudy godidig yn cael ei gydnabod fel symbol Parc Arfordir Sir y Fflint.

Y dyhead yw cael Blaendraeth y Fflint fel y canolbwynt canolog a bydd yn ganolbwynt i ymwelwyr archwilio Parc Arfordir Sir y Fflint.

Meddai Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Chris Dolphin:  “Ein huchelgais yw Parc Arfordir Sir y Fflint er budd pawb, gan ddathlu cynefin naturiol cyfoethog Aber Afon Dyfrdwy ac Arfordir Sir y Fflint.

“Mae tirwedd gyfoethog Aber Afon Dyfrdwy yn werthfawr gyda chynefinoedd sensitif, yn gartref i gyfoeth o rywogaethau. Mae'n bwysig bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddathlu, ei wella a'i warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

“Mae ein cynllun rheoli 5 mlynedd cyntaf yn cynnig cyfoeth gwych o bosibiliadau i ddefnyddio ein sgiliau i wireddu ein huchelgais.”

Bydd y cynllun, sydd wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â budd-ddeiliaid lleol, yn arwain dyfodol y parc arfordirol drwy gyfres o gamau gweithredu wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth, bioamrywiaeth a gwell mynediad i’r cyhoedd.  Gellir ei weld ar-lein yma.