Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth

Published: 14/04/2025

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad sydd â’r nod o wella safon Tai Amlfeddiannaeth ar draws Sir y Fflint.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnig cyflwyno cynllun Trwyddedu Ychwanegol a fyddai’n caniatáu i swyddogion fynd i’r afael â chyflwr tai gwael, rheolaeth eiddo gwael a gorlenwi mewn Tai Amlfeddiannaeth ar draws y stoc tai rhent preifat.

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gweithredu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth mwy, ond dim ond i nifer gyfyngedig o eiddo yn Sir y Fflint y mae’r meini prawf yn berthnasol. Byddai cyflwyno cynllun trwyddedu ychwanegol yn helpu i reoleiddio Tai Amlfeddiannaeth o bob maint.

Nod cynllun Trwyddedu Ychwanegol yw sicrhau bod yr holl Dai Amlfeddiannaeth sy’n gweithredu ar draws Sir y Fflint yn cael eu rheoli’n iawn gan unigolyn ‘cymwys ac addas’, bod yr eiddo wedi’i ddodrefnu gydag amwynderau a chyfleusterau addas; a bod y mesurau diogelwch tân yn ddigonol ar gyfer maint a math yr eiddo. 

Bydd y cynllun hefyd yn helpu i fynd i’r afael â materion ehangach yn y gymuned fel croniadau o sbwriel a gwastraff, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Chris Bithell: “Mae nifer o landlordiaid ac asiantiaid rheoli yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor i wella safonau ac ansawdd tai yn y sector rhentu preifat, ac maen nhw eisoes yn ceisio bodloni’r gofynion a nodir mewn deddfwriaeth tai. Fodd bynnag, nid yw rhai ohonynt yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau, gydag eraill yn anwybyddu neu’n torri’r gyfraith tai yn fwriadol.

“Gwyddom fod Tai Amlfeddiannaeth yn chwarae rôl hanfodol wrth fodloni’r galw am dai, ond mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n dda a’u bod yn ddiogel. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb, yn enwedig tenantiaid, landlordiaid ac asiantiaid gosod a rheoli eiddo, gael dweud eu dweud a’n helpu i lunio dyfodol tai yn Sir y Fflint.”

Llenwch yr arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ ar-lein yma. Os na allwch chi lenwi’r arolwg ar-lein, ewch i un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a gall rhywun eich helpu chi.

Mae’r Canolfannau ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau canlynol:

•             Bwcle: Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau

•             Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon: Dydd Llun i ddydd Gwener

•             Yr Wyddgrug: Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener