Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynhelir digwyddiad Gwyl y Môr y penwythnos hwn

Published: 21/03/2025

Bydd Tîm Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol Cyngor Sir y Fflint yn croesawu ymwelwyr i’w stondin yn nigwyddiad ‘Gwyl y Môr’ yng Nghastell y Fflint ddydd Sadwrn.  

Mae’r digwyddiad yn gam mawr ymlaen o ran gwireddu uchelgais ‘Parc Arfordir Sir y Fflint’ er budd preswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint. Gan ddathlu cynefin naturiol cyfoethog aber Afon Dyfrdwy ac Arfordir Sir y Fflint, mae ‘Parc Arfordir Sir y Fflint’ yn chwarae rhan hynod arwyddocaol o ran sicrhau bod gan bobl fynediad i’r amgylchedd naturiol, at ddibenion hamdden ac i wella eu hiechyd a’u lles.  

Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma. 

Mae Parc yr Arfordir yn ymestyn ar draws arfordir Sir y Fflint o Saltney i Dalacre, gan gynnwys Porth y Gogledd a Garden City, Cei Connah a Shotton, y Fflint, Bagillt, Maes Glas, Llannerch-y-môr a Mostyn, a Gronant. 

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Economi, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hon yn foment bwysig yn Sir y Fflint. Rydym yn canolbwyntio ar barhau i ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol, gan symud ymlaen o waddol y diwydiant trwm. Uchelgais Parc yr Arfordir yw bod yn rhywle y gall bywyd gwyllt a natur ffynnu, a lle gall busnesau cynaliadwy ddatblygu, gan gefnogi swyddi a chyfleoedd i wirfoddoli, a gwella cyrchfan bwysig ar gyfer ymwelwyr.”

Mae prosiect Parc Arfordir Sir y Fflint wedi elwa o ddyraniad gwerth £396,580.37 Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a sicrhaodd fwy o welliannau i Arfordir Sir y Fflint a chysylltiadau â chefn gwlad o amgylch. Bu i’r cyllid alluogi Cyngor Sir y Fflint i greu’r blociau adeiladu ar gyfer Parc yr Arfordir, gan gynnwys plannu dros 400 o goed, gwella a chreu llwybrau troed newydd, gwella cynefinoedd ar gyfer nythfa Llyffantod Cefnfelyn a warchodir a chreu cynllun ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint a Maer y Fflint yn bresennol ar gyfer y lansiad swyddogol a thorri’r deisen ganol dydd, i ddathlu’r llwyddiannau hyd yma. 

Meddai’r Cynghorydd Dennis Hutchinson, Cadeirydd CSyFf: “Mae’n gyfle gwych i ddathlu ein harfordir. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mynychu i ddysgu mwy am Barc yr Arfordir ac i fwynhau’r gweithgareddau fydd ar gael ar y diwrnod.”   

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ‘Brosiect Cysylltu’r Arfordir a Chefn Gwlad’ Parc Arfordir Sir y Fflint.

SPF Funded by UK Govt.png