Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cartref gofal yn y Fflint ar y trywydd iawn i agor yn ystod yr haf

Published: 18/03/2025

Mae gwaith adeiladu cartref gofal newydd Sir y Fflint yn dirwyn i ben ac mae ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn ystod yr haf.

Mae gwaith ar Dy Croes Atti yn y Fflint yn datblygu’n gyflym ac er gwaetha’r tywydd gwael ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, mae’r to, ac offer trydanol, yn yr adeilad bellach.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Willmott Dixon a Llywodraeth Cymru a bydd yn darparu cartref i 56 o bobl hyn ar safle hen ysbyty cymunedol.

Bydd hyn yn golygu bod cartref gofal presennol yn yr ardal yn cael ei adleoli a’i ymestyn er mwyn darparu mwy o le na’r 31 gwely sydd yno ar hyn o bryd. Bydd BIPBC a thimau gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal iechyd integredig.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: “Mae’r adeilad yn edrych yn wych ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld wedi’i gwblhau ac yn barod i groesawu ein preswylwyr. Bydd hwn yn ddarpariaeth fodern, gyfforddus a chroesawgar i bobl Sir y Fflint. Diolch i’n partneriaid am helpu i wireddu’r prosiect hwn.”

Bydd y cam nesaf yn cynnwys addurno, gwaith coed a gosod y lloriau.

Dywedodd Mike Lane, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Willmott Dixon: “Mae ein timau’n ddigon breintiedig i barhau i gael eu gwahodd i dreulio amser gyda phreswylwyr cartref gofal Croes Atti, teuluoedd a staff, felly rydym yn gwybod pa mor bwysig yw’r prosiect hwn o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o’r radd flaenaf i gymuned y Fflint.”

 “Rydym yn falch o ddweud ein bod yn ymrwymedig i greu etifeddiaeth gadarnhaol barhaus yn y gymuned hon, ynghyd â Chyngor Sir y Fflint a phob un o’n partneriaid. Hyd yma, rydym wedi creu 13 o gyfleoedd cyflogaeth newydd i breswylwyr lleol, gan gynnwys tri ar gyfer rhai a oedd yn ddi-waith, a dau ar gyfer rhai sy’n gadael carchar. Rydym wedi darparu mwy na 200 awr o weithgareddau addysgol i bobl ifanc a threulio mwy na 170 awr yn gwirfoddoli i gefnogi mentrau cymunedol lleol.”

Ychwanegodd Michelle Greene, Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n gyffrous gallu gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yng Nghyngor Sir y Fflint er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r preswylwyr.”

Mae’r cynllun £18 miliwn yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal a thrwy raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n wych gweld y cynnydd arbennig yn adeilad Ty Croes Atti. Bydd y prosiect pwysig hwn yn helpu i roi hwb i’n capasiti cymunedol ac mae’n enghraifft wych o gydweithio i ddarparu gwasanaethau i bobl Sir y Fflint. Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect wedi’i gwblhau yn y dyfodol agos.”

Mae Cyngor Sir y Fflint yn recriwtio gweithwyr gofal a chefnogi ar hyn o bryd i ymuno â’n timau ymroddedig a bod yn seiliedig yn adeilad Ty Croes Atti pan fydd yn agor yn yr haf 2025. Bydd pob aelod newydd o’r tîm yn cael cyflwyniad sefydlu cynhwysfawr a rhaglen o hyfforddiant, a byddant yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad tîm rheoli profiadol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd cyffrous hyn, anfonwch e-bost at socialservicesrecruitment@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 733598.