Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn Sir y Fflint - Cynllunio ar gyfer y Dyfodol

Published: 06/03/2025

Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn swyddogaeth statudol yr awdurdod lleol a gynhelir yn rheolaidd. Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn helpu awdurdodau i ddeall beth yw’r angen am dai ar draws y sir ac yn llywio strategaethau a chynlluniau datblygu yn y dyfodol, yn cynnwys y Strategaeth Dai 2025. 

Un o allbynnau allweddol yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yw’r amcangyfrif o’r diffyg rhwng yr angen presennol am dai a’r angen a ragwelir, a’r cyflenwad o lety yn cynnwys trosiant y cyflenwad presennol, a darpariaeth o lety newydd a gynlluniwyd. Yn y Strategaeth Dai a’r Asesiad blaenorol, rhagwelwyd diffyg blynyddol o 238 o dai fforddiadwy. Mae’r Asesiad diweddaraf yn awr yn awgrymu diffyg o 432 o dai fforddiadwy (72% o’r rhai hynny ar gyfer rhent fforddiadwy). Disgwylir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu, o ystyried y cynnydd mewn digartrefedd ar draws Sir y Fflint, Cymru a’r rhan fwyaf o’r DU.

Fel y caiff ei nodi ym mhrosbectws tai Cyngor Sir y Fflint, mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn amlygu’r angen am fwy o dai mawr (4/5 ystafell wely) a thai llai (1/2 ystafell wely), yn enwedig tai anghenion cyffredinol sy’n cynrychioli dros 86% o’r diffyg.

Mae cydweithwyr yn nhimau Cynllunio a Thai Cyngor Sir y Fflint yn gweithio’n agos gyda’i gilydd i sicrhau bod mentrau megis y Cynllun Datblygu Lleol, Cynllun Datblygu Cynlluniedig Llywodraeth Cymru a chaffaeliadau drwy Raglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r angen a nodwyd yn yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Er na fydd y ddwy ffrwd gyllido olaf yn mynd i’r afael â’r diffyg yn llawn, mae camau cadarnhaol yn cael eu hystyried i barhau i dyfu ac arallgyfeirio portffolio tai Sir y Fflint, megis yr adolygiad o’r llety tai gwarchod.  

Dywedodd Helen Brown – Aelod Cabinet Tai a Chymunedau: “Dros y blynyddoedd diwethaf mae awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd yn yr angen am dai cymdeithasol oherwydd pwysau allanol megis yr argyfwng costau byw, cynnydd mewn costau rhent, a chyflwyniad y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru a’r heriau a gyflwynodd hyn i landlordiaid preifat. Braf yw gweld Sir y Fflint yn gweithredu ac yn cydweithio, nid yn unig i ddarparu tai, ond i sicrhau ein bod yn darparu’r math cywir o lety yn yr ardal a nodwyd i fynd i’r afael ag angen ein preswylwyr yn Sir y Fflint.”