Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gofalwyr maeth yn Sir y Fflint yn croesawu cynllun i gychwyn dileu elw o ofal plant
Published: 21/02/2025
Y Diwrnod Gofal hwn (21 Chwefror), bydd Maethu Cymru Sir y Fflint yn ymuno â chymuned faethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru gychwyn ar y broses o ddileu elw o’r system gofal plant.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU gyda chynlluniau i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw cysylltiad â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau, a’u hysgol.
Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sydd mewn gofal asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.

Mae Sue, o Sir y Fflint, wedi bod yn maethu gyda'i hawdurdod lleol, Maethu Cymru Sir y Fflint, ers 5 mlynedd. Mae hi'n credu bod cadw plant yn lleol yn flaenoriaeth a dyna pam mae hi'n maethu gyda'i hawdurdod lleol.
"Rydym wedi bod yn maethu gyda'n hawdurdod lleol ers nifer o flynyddoedd ac mae cadw plant na allant fod gyda'u teuluoedd yn lleol yn bwysig iawn iddyn nhw, ac i ni fel gofalwyr maeth.
"Mae cadw ein plant maeth yn agos i'w ffrindiau, eu hysgol a'u brodyr a'u chwiorydd yn sicrhau eu bod yn cadw hunaniaeth o fewn y gymuned. Maent eisoes wedi profi cymaint o golled yn eu bywydau felly mae eu cadw'n lleol i bopeth y maent yn gyfarwydd ag ef, fel parciau a pentrefi lleol, yn eu helpu i gadw ymdeimlad o berthyn.
"Mae aros yn lleol yn golygu nad oes amser teithio hir i weld ffrindiau ac i gadw mewn cysylltiad â'u brodyr a'u chwiorydd. Mae'n golygu y gallant hefyd aros yn yr un ysgol ac o fewn yr un grwp o ffrindiau y maent eisoes yn eu hadnabod a'u mwynhau.
"Mae fy Ngweithiwr Cymdeithasol yn wych ac mae'r tîm yn Maethu Cymru Sir y Fflint bob amser ar gael i fy nghefnogi, pryd bynnag y bydd eu hangen arnaf.
"Rydym yn mwynhau maethu gyda'n hawdurdod lleol, mae'n rhoi boddhad, yn ysbrydoledig ac yn ein cadw ar flaenau ein traed!"
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd i gael – dros 83 ohonynt yma yn Sir y Fflint, ond mwy na 260 o blant yn y system ofal. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Rheolwr Gwasanaethau Plant Sir y Fflint, Sarah Grant
“Mae awdurdodau lleol fel Maethu Cymru Sir y Fflint yn gweithredu ar sail ddi-elw, sy'n golygu bod pob punt sy'n cael ei gwario'n cael ei chyfeirio'n llwyr tuag at les plant a phobl ifanc yn ein cymuned. Rhan allweddol o'r genhadaeth hon yw eu helpu i aros yn eu hardal leol, lle gallant aros yn agos at aelodau'r teulu, mynychu'r un ysgol, a chynnal cyfeillgarwch sy'n amddiffyn eu hunaniaeth.
“Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn ymroddedig i sicrhau bod y plant sy'n byw gyda gofalwyr maeth yn derbyn yr un lefel o ofal, sefydlogrwydd a chyfleoedd ag y byddem eu heisiau ar gyfer ein plant ein hunain. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr unigolion ifanc hyn ffynnu a thyfu, gan ddangos ein hymrwymiad i'w lles a'u datblygiad.
“I unrhyw un sy'n meddwl am faethu ac yn teimlo'n angerddol dros gadw plentyn yn lleol, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint.”
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: https://www.maethucymru.siryfflint.gov.uk/