Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau ar gyfer ysgol Gatholig newydd yn Sir y Fflint

Published: 12/02/2025

Bydd cynnig i drawsnewid addysg Gatholig yn Sir y Fflint yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.

Fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor, mae buddsoddiad wedi ei nodi mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Byddai’r cynnig yn cyfuno nifer o ysgolion a chreu ysgol newydd.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn adeiladu ysgolion newydd, yn ailfodelu ac yn ailddatblygu adeiladau i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a modern i fyfyrwyr, staff, rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Mae mwy na £140 miliwn wedi ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ystâd ysgolion Sir y Fflint.

Mae’r cynnig diweddaraf yn cynnwys cau Ysgol Gynradd Gatholig St Anthony, Ysgol Gynradd St David, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn ac agor ysgol Gatholig 3-18 oed newydd.

Yn dilyn asesiad o bob safle, bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei datblygu ar safleoedd Sant Richard Gwyn a Santes Fair yn y Fflint.

Gofynnir i aelodau’r Cabinet ystyried y cynigion a chytuno i gyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol gyda budd-ddeiliaid allweddol.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cau St Anthony erbyn Medi 2026 gan fod y gostyngiad yn nifer y disgyblion yn ei gwneud yn anghynaliadwy.

Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg:  “Rydym yn gweithio gyda’r Esgobaeth i sicrhau bod gennym strategaeth ragweithiol ar gyfer addysg gynaliadwy o safon uchel yn y dyfodol.

“Ar hyn o bryd mae gennym broblem sylweddol o ran lleoedd gwag sy’n anghynaliadwy yn yr hirdymor. Mae’r cynnig hwn yn gyfle i adfywio addysg a rhoi’r cyfleoedd gorau posibl i ddysgwyr.”

Dywedodd yr Esgob Peter Brignall o Esgobaeth Wrecsam: “Rydw i a’r Esgobaeth yn cefnogi’r cynllun hwn. Rwy’n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru i sicrhau’r cyfle i ysgolion Catholig yn Sir y Fflint i ddarparu ar gyfer y teuluoedd hynny sydd eisiau addysg ffydd o’r safon uchaf a chyfle i’n pobl ifanc.”

Tra bod yr adeilad newydd yn cael ei gymeradwyo a’i adeiladu, bydd bob ysgol a effeithir gan y cynnig 3-18 yn parhau i weithredu fel sefydliadau ar wahân ar eu safleoedd ysgol unigol.

I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen moderneiddio ysgolion, ewch i’n gwefan.