Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau moderneiddio ysgolion ar gyfer Saltney

Published: 11/02/2025

Cynnig i gael ysgol gynradd newydd yn Saltney fel rhan o raglen foderneiddio’r Cyngor.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn adeiladu ysgolion newydd, yn ailfodelu ac yn ailddatblygu adeiladau i ddarparu amgylchedd dysgu ysbrydoledig a modern i fyfyrwyr, staff, rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Mae mwy na £140 miliwn wedi ei fuddsoddi dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ystâd ysgolion Sir y Fflint.

Fel rhan o barhad y rhaglen, nodwyd buddsoddiad ar gyfer yr ysgolion cynradd yn Saltney.

Er mwyn sicrhau’r cyllid sydd ei angen ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ar gyfer Saltney, cynigir cau a chyfuno Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Wood Memorial Saltney, sydd ymysg yr ysgolion a sgoriodd uchaf o ran bod angen gwaith moderneiddio a buddsoddiad yn y portffolio addysg.

Byddai’r ysgol cyfrwng Saesneg 3-11 arfaethedig yn aros ar ddau safle ar wahân yn y tymor byr tra bod ysgol newydd yn cael ei datblygu ar safle presennol Saltney Wood Memorial.

Aseswyd y ddau safle ar gyfer datblygiad posib, fodd bynnag, dewiswyd Saltney Wood Memorial fel y dewis a ffefrir oherwydd ei hyfywedd fel cyfle i ddatblygu, maint y safle a’i safle amlwg yn y dref.

Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg:  “Mae rhaglen moderneiddio ysgolion y Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran moderneiddio ein hystâd ysgolion, yn bodloni’r galw am leoedd ac yn cynyddu lleoedd i ddisgyblion ble fo angen, gan gynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar.

“Rhaid i ni sicrhau bod gennym ysgolion da yn y lleoliadau cywir sy’n gallu darparu addysg o safon. Mae’r cynnig hwn yn gyfle gwych i sicrhau bod gan ddysgwyr yn Saltney y cyfleoedd gorau posib er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.

Byddai’r buddsoddiad hefyd yn cynnwys adolygiad o lwybrau diogel i ysgolion. Pe bai angen, cyflwynir buddsoddiad i wella llwybrau cerdded, croesfannau a  mesurau gostegu traffig i sicrhau y bodlonir y safonau diogelwch angenrheidiol.

Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dechrau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynlluniau ac i swyddogion gyflwyno achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru.