Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26
Published: 10/02/2025
Mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes o 40% i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch o fis Ebrill 2025, wedi’i gapio ar £110,000 fesul busnes ar draws Cymru.
Mae hyn yn ychwanegol at y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol.
Mae tua 800 o fusnesau yn Sir y Fflint y disgwylir iddynt fod yn gymwys fel rhan o’r pecyn ariannu £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol: “Rwy’n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ein busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch lleol. Mae canol ein trefi’n chwarae rhan hanfodol i gefnogi cymunedau a bydd y pecyn cefnogi hwn yn helpu busnesau yn y sector hwn am 12 mis arall."
Bydd ar bob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch, yn cynnwys y rhai sy’n ei gael eisoes, angen llenwi ffurflen gais arlein yn https://digital.flintshire.gov.uk/EFTEST/Eform/Create?service=Retail%2c+Leisure+and+Hospitality+Rate+Relief&lang=C i fanteisio ar gynllun rhyddhad 2025/26.